Prosiect newydd i gofio 'sbardun' Merched Beca

Prosiect newydd i gofio 'sbardun' Merched Beca
Mae prosiect newydd yn Sir Benfro yn gobeithio datgelu mwy am hanes un o arweinwyr cyntaf Merched Beca.
Yn ôl Cymdeithas Clychau Clochog, Twm Carnabwth oedd y "sbardun" i derfysgoedd Merched Beca.
Ymhlith y cynlluniau mae cyhoeddi llyfryn, gosod paneli i adrodd ei hanes yn y fro, creu arddangosfa a threfnu i gwmni theatr lleol i ail-greu yr ymosodiad enwog ar y tollborth yn Efailwen.
Yn ôl Hedd Ladd-Lewis, hanesydd lleol, mae Twm Carnabwth yn “un o gymeriadau mawr hanes Cymru.”