Golff yn ‘rhoi rheswm i godi bob dydd’ yn dilyn gwrthdrawiad difrifol

ITV Cymru 28/12/2022
Dylan Baines

Fe wnaeth bywyd Dylan Baines o'r Bargoed yng Nghwm Rhymni newid am byth yn 22 oed.

Roedd e’n hoff o chwaraeon ac yn mwynhau sgïo, chwarae pêl-droed a golff, ond yn 2017, cafodd ei gludo i ysbyty ar ôl bod mewn gwrthdrawiad tra'n teithio mewn fan."

Nid oedd unrhyw un arall wedi cael niwed, ond roedd Dylan wedi’i barlysu o’r gwddf i lawr.

“Dydw i ddim yn gallu cofio unrhyw beth o’r tair wythnos gyntaf â bod yn onest,” meddai wrth ITV Cymru Wales.

“Roeddwn i ar bob math o feddyginiaethau lleddfu poen, ar ôl deffro o’r llawdriniaeth. Dwi’n cofio tua diwedd fy nghyfnod yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, dwi’n meddwl dyna pryd wnaeth hi fy nharo i pa mor wael oeddwn i.

“Dwi’n cofio beichio crïo ac roedd hi fel petai fy myd ar ben â bod yn onest.”

Image
Dylan Baines
Ar ôl misoedd yn yr ysbyty, fe wnaeth Dylan adennill ei ddefnydd o’i ochr dde, ond mae ei law a’i droed chwith yn parhau i fod wedi’u parlysu.

Wrth iddo ddod i delerau â realiti ei anaf, cafodd Dylan ei ysbrydoli gan boster a welodd mewn clinig ac fe wnaeth e droi at golff.

'Rheswm i godi bob bore'

Fis diwethaf, fe wnaeth e gipio ei wobr gyntaf yng Nghylchdaith Cymdeithas Golff Anabl Ewrop ym Mhortiwgal, ac mae’n dweud bod y gamp wedi achub ei fywyd. 

“Mae hi wedi fy nghymell a rhoi rheswm imi godi bob dydd, ac mae hi’n ffordd i wella fy hun,” meddai.

“Does dim amheuaeth yn fy meddwl i ei bod hi wedi chwarae rhan fawr yn achub fy mywyd. Dydw i ddim yn gwybod ble fyddwn i, i fod yn onest, yn gorfforol ac yn feddyliol - oherwydd mae hi wedi gwneud gwyrthiau ar gyfer fy iechyd corfforol yn ogystal, mae’n fy ngorfodi i fynd allan ac i symud. 

“Ar ddydd Sadwrn a dydd Sul, dwi unai’n gallu chwarae gyda fy nhad neu fy ffrindiau’n eithaf aml, felly mae hi’n ffordd o’u gweld nhw.

Mae golff wedi rhoi rhywbeth i Dylan ganolbwyntio arno. Wrth orwedd mewn gwely ysbyty bum mlynedd yn ôl, doedd e ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl yn  y dyfodol.

Ond ar ôl ennill yn yr Algarve, mae e nawr â’i olygon ar hyd yn oed mwy o fuddugoliaethau'r flwyddyn nesaf. Mae e’n gobeithio bydd ei stori yn gallu ysbrydoli eraill. 

“Dwi’n meddwl roeddwn i’n disgwyl iddi wella dros nos, ond dyw hynny jyst ddim yn digwydd. Mae hawl gennyt ti deimlo’n isel, i deimlo’n drist a chrac gyda’r byd. 

“Trïwch beidio â’i chymryd allan ar y bobl sydd agosaf i chi - dwi’n gwybod ‘mod i wedi gwneud y camgymeriad yna ychydig dros y blynyddoedd diwethaf.

“Ond mae hawl gennyt ti deimlo fel yna a jyst byddwch yn ffyddiog ei bod, gydag amser, yn gwella.”

Mae Dylan yn gwybod na fydd pethau fyth yr un peth â'r cyfnod cyn y ddamwain. Mae e’n wynebu heriau yn ddyddiol. 

Ond mae chwaraeon wedi rhoi rheswm iddo edrych ymlaen at y dyfodol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.