Arestio dau ddyn wedi i ddyn gael ei drywanu mewn clwb nos yn Birmingham
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio wedi i ddyn gael ei drywanu mewn clwb nos yn Birmingham.
Bu farw Cody Fisher ar ôl iddo gael ei drywanu yng nghlwb Crane yn y ddinas ychydig cyn 23:45 ar Ŵyl San Steffan.
#BREAKING | Detectives investigating the fatal stabbing of Cody Fisher have arrested two men on suspicion of murder today.
— Birmingham Police (@BrumPolice) December 28, 2022
Cody was stabbed to death at the Crane nightclub in Digbeth, Birmingham, on Boxing Day.
More 👉 https://t.co/uFh7K2enCa pic.twitter.com/rhgg3VUcgI
Cyhoeddodd Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr ddydd Mercher eu bod wedi arestio dyn 22 oed ychydig wedi hanner nos yng nghanol dinas Birmingham yn ogystal â dyn 21 oed a gafodd ei arestio yn Llundain fore Mercher.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Ian Ingram eu bod nhw'n "gwneud cynnydd da yn ein ymholiadau ac mae gennym ni well syniad o beth ddigwyddodd.
"Mae teulu a ffrindiau Cody wedi eu llethu gan yr hyn ddigwyddodd, a byddwn yn parhau i weithio i roi atebion iddyn nhw."