Newyddion S4C

Calum Maclean

Ymgyrchydd yr iaith Aeleg yw cyfrannwr TikTok mwyaf dylanwadol Yr Alban

NS4C 28/12/2022

Mae ymgyrchydd yr iaith Aaeleg wedi cael ei enwi fel y cyfrannwr TikTok mwyaf dylanwadol yn Yr Alban.

Fe wnaeth Calum Maclean guro enwogion fel y canwr Lewis Capaldi.

Dywedodd yr asiantaeth oedd yn gyfrifol am y bleidlais, Spey, bod yr unigolion wedi cael ei beirniadu ar sail pa mor aml yr oedd defnyddwyr yn rhyngweithio efo'r cyfrifon, yn hytrach na faint o ddilynwyr sydd ganddyn nhw. 

Dywedodd sylfaenydd Spey, Jennifer Robertson, fod "Calum Maclean wedi arwain diddordeb cynyddol yn yr iaith Aeleg ymhlith Albanwyr ifanc yn benodol, sy'n dangos yr angerdd sydd gennym ni at dreftadaeth Aeleg."

Mae Calum Maclean yn defnyddio'r enw 'Caldamac' ar y platfform cyfrwng cymdeithasol, ac mae ganddo 257,000 o ddilynwyr. 

Mae 56% o'i ddilynwyr unai yn hoffi neu yn rhannu ei ddeunydd. Mae hynny'n ganran uwch nag unrhyw Albanwr arall ar TikTok.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.