Newyddion S4C

merthyr

Dyn 82 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Merthyr Tudful

NS4C 27/12/2022

Mae dyn 82 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Merthyr Tudful ddydd Sadwrn.

Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad rhwng cerbyd Nissan du a cherddwr ar Avenue De Clichy yn y dref, tua 22:00. 

Fe gafodd y cerddwr 82 oed ei gludo i'r ysbyty lle bu farw'n ddiweddarach o'i anafiadau. 

Mae dynes 31 oed wedi ei harestio ac wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau yn parhau. 

Dywedodd PC Nerys Reeve o Heddlu De Cymru fod "ein meddyliau yn parhau gyda theulu a ffrindiau'r dyn. Mae ei deulu agosaf wedi cael gwybod ac maent yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbennig."

Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2200429526.

 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.