'Twf' yn y sector ffilm a theledu yng Nghymru
Mae economi Cymru wedi elwa yn sgil dros £155m o wariant cynhyrchu gan y sector ffilm a theledu, yn ôl asiantaeth greadigol Llywodraeth Cymru.
Mae'r gwariant hwnnw gan frandiau fel Lucasfilm, Netflix a Bad Wolf.
Yn ôl Cymru Greadigol, mae £14.2m o gyllid hefyd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer 22 o brosiectau ers mis Ionawr 2020 ac fe wnaeth sector sgrin Cymru weld trosiant o £575 miliwn yn 2021, sy'n gynnydd o 36% o'r flwyddyn flaenorol.
Mae'r asiantaeth hefyd yn nodi fod "memorandwm dealltwriaeth gyda BBC Cymru ac S4C yn gweld mwy o waith partneriaeth yng Nghymru i adrodd straeon unigryw Gymreig a chefnogi cwmnïau cynhyrchu annibynnol."
Bydd £180,000 ar gael er mwyn datblygu ffilmiau yn y Gymraeg fel rhan o'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, fod "twf digynsail yn y sectorau creadigol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae wedi bod yn hyfryd gweld lleoliadau unigryw Cymru ar y sgrin – a hefyd dangos rhagoriaeth ein talent, criwiau a'n cyfleusterau.
"Bydd ein ffocws ar sgiliau yn parhau yn y flwyddyn newydd - er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu'r sgiliau a’r doniau ar gyfer y sector hwn sy’n datblygu’n barhaus."