Dyn 37 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Caerffili
27/12/2022
Mae dyn 37 oed wed marw mewn gwrthdrawiad ger Caerffili nos Lun.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A469 rhwng Llanbradach ac Ystrad Mynach am tua 20:30 rhwng car a cherddwr.
Bu farw'r cerddwr 37 oed yn y fan a'r lle, ac mae ei deulu agos yn derbyn cymorth gan swyddogion arbennig.
Mae dyn 33 oed o Sir Henffordd wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2200430883.