Gwasanaethau trenau i ddechrau yn hwyrach wedi streiciau
27/12/2022
Bydd gwasanaethau trenau yn dechrau yn hwyrach ddydd Mawrth yn dilyn y streic ddiweddaraf gan weithwyr.
Fe wnaeth aelodau undeb yr RMT sy'n gweithio i Network Rail orffen eu streic ddiweddaraf am 06:00 ddydd Mawrth, gan olygu na fydd nifer o drenau yn cychwyn eto tan o leiaf 09:00.
Dywedodd Network Rail y bydd 70% o wasanaethau yn mynd yn eu blaen ond maent wedi annog teithwyr i wirio amseroedd teithio gyda chwmnïau trenau.
Mae miloedd o aelodau'r RMT wedi streicio yn sgil anghydfod dros gyflog ac amodau gwaith, a byddant yn streicio eto rhwng 3 a 4 Ionawr a 6 a 7 Ionawr.