Newyddion S4C

Heddlu'n cyhoeddi enw dynes gafodd ei saethu'n farw ar Noswyl Nadolig

26/12/2022
Elle Edwards

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i farwolaeth dynes yng Nglannau Mersi ar Noswyl Nadolig wedi ei henwi fel Elle Edwards, 26 oed.

Cafodd swyddogion eu galw i'r Lighthouse Inn ym Mhentref Wallasey toc wedi 23:50 nos Sadwrn yn dilyn adroddiadau fod gwn wedi ei danio.

Roedd Ms Edwards yn y dafarn gyda'i chwaer a'i ffrindiau pan gafodd ei saethu yn ei phen.

Cafodd ei chludo i ysbyty Arrowe Park gydag anaf difrifol lle daeth cadarnhad ei bod wedi marw.

Mae ei theulu yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol a'r gred yw nad hi oedd targed yr ymosodiad.

Fe gafodd pedwar dyn hefyd eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau gwn.

Mae dyn 28 oed o Beechwood, Wirral, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty gydag anaf i'w gorff.

Nid yw anafiadau'r tri dyn arall yn peryglu eu bywydau.

Mae heddlu Glannau Mersi yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a fedrai fod o gymorth iddyn nhw gyda'u hymchwiliad i gysylltu â nhw.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.