Hen ffefrynnau yn dychwelyd i Pobol y Cwm
Roedd gwylwyr Pobol y Cwm wedi cael eu trin i sypreis ar noson Nadolig wrth i ddau gymeriad dychwelyd i'r gyfres.
Fe wnaeth Dai a Diane Ashurst ddod yn ôl i Gwmderi am y tro cyntaf ers bron i dair blynedd.
Nid yw'r cymeriadau sydd wedi eu chwarae gan yr actorion Emyr Wyn a Victoria Plucknett wedi bod yn y gyfres ers dechrau pandemig Covid-19 yn 2020.
Fe ymddangosodd Dai "Sgaffalde" Ashurst yn y gyfres am y tro cyntaf rhwng 1978 ac 1984, cyn iddo ddychwelyd yn 2001, tra bo Diane wedi bod yn rhan o'r gyfres ers 1998.
Roedd y ddau yn mwynhau peint yn nhafarn y Deri Arms ac yn cofleidio'r cymeriadau eraill oedd yn amlwg yn eu colli.
Ond nawr maen nhw nôl yn y Cwm, a bydd gwylwyr y gyfres yn gobeithio y bydd y ddau yn penderfynu aros yno am beth amser eto.