Holl drenau Gŵyl San Steffan wedi eu canslo o achos streic
Fe fydd miloedd o bobl oedd yn bwriadu teithio ar drenau ar Ŵyl San Steffan yn cael eu gorfodi i wneud cynlluniau eraill, wrth i streic reilffyrdd olygu na fydd unrhyw wasanaethau yn rhedeg.
Mae cannoedd o drenau fel arfer yn rhedeg ar 26 Rhagfyr ar ôl bod ar stop yn ystod Dydd Nadolig.
Ond dywedodd Network Rail y bydd rheilffyrdd Prydain yn parhau ar gau am yr ail ddiwrnod yn olynol oherwydd bod gweithwyr sy’n aelodau o’r undeb Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) yn parhau gyda'u gweithredu diwydiannol.
Cafodd teithwyr eu rhybuddio am effaith y streic wythnos yn ôl.
Mae diffyg trenau yn golygu y bydd mwy o bobl yn teithio ar y ffyrdd ddydd Llun.
Mae cwmnïau bysiau National Express a Megabus wedi profi galw mawr yn barod.
Mae’r AA yn disgwyl 15.2 miliwn o geir ar ffyrdd y DU ar Ŵyl San Steffan.
Dywedodd llefarydd: “Mae traffig yn debygol o adeiladu o amgylch canolfannau siopa wrth i lawer o bobl chwilio am fargen, ac fe fydd cefnogwyr pêl-droed yn teithio i weld eu timau.
“Fe allai tagfeydd traffig lleol ddatblygu ar deithiau byr, ond fe ddylai'r traffig fod yn wasgaredig trwy gydol y dydd, wrth i bobl gymryd eu hamser ar ôl Dydd Nadolig.”