'Cario'r traddodiad ymlaen sydd ei angen efo'r Plygain'
'Cario'r traddodiad ymlaen sydd ei angen efo'r Plygain'
Mae hi'n gyfnod y Plygain, sef gwasanaeth Nadolig traddodiadol i ganu carolau'r Plygain.
I nifer o'r gwasanaethau, mae'r dair blynedd diwethaf wedi bod yn dra-gwahanol, gyda Chapeli ac Eglwysi a oedd gynt yn orlawn ar wahanol adegau yn ystod yr Adfent a'r flwyddyn newydd wedi newid i fod yn wag yn sgil y pandemig.
Ond eleni, bydd nifer o blygeiniau ar hyd a lled y wlad yn gobeithio croesawu cynulleidfaoedd yn ôl.
'Naws arbennig'
Bydd un o'r gwasanaethau hyn yn cael eu cynnal yn Llanfairpwll ar Noswyl Nadolig. Mae Nia Wyn Jones ac Eirian Williams, sy'n aelodau ar bwyllgor Plygain y pentref, yn edrych ymlaen at gael croesawu pobl yn ôl.
"Dwi'n meddwl bod 'na lot o alw amdana fo, dwi'n meddwl bod 'na bobl isio dod yn ôl," meddai Nia.
"'Dan ni'n gofyn i rei partïon, neu ma' 'na sawl un yn cynnig eu hunain. Ma'n rhyfeddol ers y dechra' gymaint ohonyn nhw sydd yn falch o gael dŵad. Dwi ddim yn gwybod be' fysa ni'n neud heb y bobl ifanc sy'n dod o'r colega' ac wrth eu bodda' yn cael gwirfoddoli. Ma' 'na ryw naws arbennig yma."
Mae'r Plygain yn Llanfairpwll wedi ei sefydlu ers 1987, ac roedd Eirian yn un o'r sylfaenwyr ynghyd â Lynn Davies.
"Mi fuodd o'n gofyn (Lynn) am sawl blwyddyn ac ym 1987, fe ddaethom ni at ein gilydd i neud o a'r cwbl a wnaethom ni ar y dechrau, o'dd o'n lleol ofnadwy, oedd gofyn i ambell i berson yn y capel os y bysa nhw'n fodlon trio codi parti," meddai Eirian.
Ychwanegodd fod y gwasanaeth yn cael ei gynnal "yng ngolau cannwyll a dwi'n meddwl bod hynny yn creu awyrgylch reit hyfryd i'r peth, ac wrth gwrs, mae'r carolau i gyd yn cael eu canu yn ddi-gyfeiliant sydd yn dipyn o her."
Dywedodd Nia mai parhau efo'r traddodiad sydd ei angen.
"Dwi'n meddwl bo' ni'n cydio mewn ryw drysor a ma'n amlwg bod o'n cael ei arddel mewn sawl lle, pawb yn falch ohona fo. 'Dan ni'n falch ohono fo yn Llanfair, bod Eirian a Lynn wedi sefydlu hyn flynyddoedd yn ôl, a'n gwaith ni ydi cario'r traddodiad ymlaen."
'Dim angen perswadio'
Er bod y Plygain wedi ei gynnal yn rhithiol dros y blynyddoedd diwethaf yn sgil Covid-19, mae cyffro o gael ei gynnal wyneb yn wyneb unwaith eto.
"Ma hi'n braf fod pobl isio dod yn ôl. 'Ddaru ni gynnal un ar Zoom 'llynadd a tro cyn hynny, dangos rhai o recordiau'r gorffennol ond fydd hwn gymaint gwell," meddai Eirian.
Does dim angen perswadio unrhyw un i ddod i'r Plygain yn ôl Nia.
"Sut dwi'n perswadio nhw? Wel does na'm angen wir achos unwaith ma' nhw 'di dod, fyddan nhw wedi cydiad yn y peth. Fyddan nhw wedi cael eu cyfareddu dwi'n siŵr.
"Mae o'n wasanaeth syml gyda naws arbennig a ma'r canhwylla' yn rhoi ryw oleuni gwahanol, yn adlewyrchu ryw oleuni gwahanol i ni a geith pawb synfyfyrio a meddwl yn eu ffordd eu hunain am y peth."