Heddlu'n galw am ofal wrth ddathlu'r Nadolig er mwyn lleihau pwysau
![Newyddion S4C](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/2021-03/newyddion-S4C_0.png)
Heddlu'n galw am ofal wrth ddathlu'r Nadolig er mwyn lleihau pwysau
Mae rhybudd gan yr heddlu ar i bobl fod yn ofalus wrth ddathlu dros gyfnod y Nadolig, gyda phryderon bod effaith streiciau yn mynd i roi mwy o bwysau ar luoedd.
Mae nyrsys a gweithwyr ambiwlans ymhlith y sawl sydd wedi streicio yn ystod yr wythnosau diwethaf gyda gweithwyr ambiwlans yn streicio eto ar 28 Rhagfyr.
Daw'r alwad gan y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan o Heddlu De Cymru oedd yn siarad wrth lansio ymgyrch Nadolig yr heddlu yn galw ar bobl i edrych ar ôl ei gilydd wrth gymdeithasu dros yr ŵyl.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Peidiwch â gorwneud, peidiwch â gor-yfed. Edrych ar ôl eich gilydd, edrych ar ôl eich ffrindiau.
"Os 'da chi angen help gynno ni, os 'da chi angen gwasanaeth gynnon ni, ffoniwch ni, neu gweld ni o gwmpas ar y stryd.
"Fyddwn ni yn y trefi, fyddwn ni yn y dinasoedd, fyddwn ni o gwmpas y lle, newch chi weld ni o gwmpas y lle.
"Ma' cynllun yn ei le i sicrhau bod ni yn y llefydd iawn, ond dowch ato ni i siarad efo ni, os 'da chi angen help fyddwn ni yna."