
Apêl yn cefnogi cannoedd o deuluoedd i brynu anrhegion i'w plant

Apêl yn cefnogi cannoedd o deuluoedd i brynu anrhegion i'w plant
Llond sach o anrhegion, dyna’r olygfa mae nifer o blant yn edrych ymlaen ato ar fore Nadolig.
Ond yn ôl trefnwyr apêl deganau Sir Gâr, gyda'r esgid yn gwasgu mae yna gynnydd mawr wedi bod yn y nifer o deuluoedd sydd yn gofyn am gymorth dros yr ŵyl.
Nod yr apêl yw cefnogi cannoedd o deuluoedd sy’n ei gweld hi’n anodd prynu anrhegion i’w plant.
Mae pob math o eitemau wedi cael eu cyfrannu a’u prynu ar gyfer yr apêl eleni, gan amrywio o lyfrau i nwyddau harddwch ac eitemau celf a chrefft.
Mae’r apêl wedi gweld cynnydd sylweddol o 25% yn y nifer o enwebiadau eleni sy’n amrywio o fabanod i bobl ifanc yn eu harddegau.
Mae’r enwebiadau yn dod gan ysgolion, gweithwyr cymdeithasol, canolfannau ieuenctid a theuluoedd yn bennaf.
Hyd yn hyn mae o leiaf 10,000 o anrhegion wedi eu casglu ac mi fydda nhw nawr yn cael eu didoli gan y cyhoedd a phlant o ysgolion lleol i’r teuluoedd sydd mewn angen.

'Amser mwyaf anodd'
Yn ôl Nia Thomas sy’n Rheolwr Busnes, Adran Addysg Cyngor Sir Gâr, eleni mae’r gefnogaeth yn bwysicach nag erioed.
“Mae e hyd yn oed wedi taro fi y niferoedd ni’n siarad amdano," meddai.
"Mae’n taro dyn y storïau sy’n dod mas am blant yn yr ysgol ac ambell un yn dweud bod 'dolig wedi’i ganslo yn eu tŷ nhw eleni”.
Dywedodd Osian, un o’r plant oedd yn helpu i gasglu: “Bydd lot o blant ddim gyda anrhegion i Nadolig, os ni’n 'neud hwn bydde nhw yn cael anrhegion so bydde fe'n 'neud nhw yn fwy hapus.”
Er bod ysbryd yr ŵyl wedi cydio yn nifer, mae’r pwysau ariannol ar deuluoedd i’w weld yn glir yn ôl pennaeth Ysgol Brynsierfel, Jane Davies: “Mae’r Nadolig yn gallu bod yn amser hapus tu hwnt i nifer o deuluoedd ond y realiti i lawer iawn o bobl hefyd yw ei bod hi’n amser mwyaf anodd y flwyddyn, mae’n amser unig, mae’n amser trist, ac amser lle ma' nhw’n gorfod dewis rhwng rhoi bwyd ar y ford neu anrhegion i’w plant."
Dywedodd Dr Steffan Evans, Pennaeth Polisi Sefydliad Bevan: “Ma' cael y gallu i fforddio’r anrhegion yna yn rhywbeth mae lot yn cymryd yn ganiataol a bydd o lot mwy anodd eleni ac ma' hynny am fod yn broblem mewn lot fawr o gymunedau ar draws y wlad i gyd.
Ynghanol sŵn y dathlu, efallai bod yr angen yn fwy nag erioed eleni a’r gobaith yw y bydd pob plentyn yn dod o hyd i rywfaint o gysur mewn tegan ar fore Nadolig.