Newyddion S4C

Argyfwng ar gae rygbi: 'Ar ddiwedd y dydd, wnaethon nhw safio'n fywyd i'

19/12/2022

Argyfwng ar gae rygbi: 'Ar ddiwedd y dydd, wnaethon nhw safio'n fywyd i'

Ar 15 Hydref roedd Steffan Howells yn paratoi i chwarae gêm o rygbi i'w glwb, Clwb Rygbi Cymry Caerdydd.

Ond wedi 15 munud ar y cae, cafodd ataliad ar y galon. Fe wnaeth doctoriaid y clwb rygbi a'u gwrthwynebwyr rhoi CPR iddo, a bu rhaid ei gludo i Ysbyty Athrofaol Prifysgol Caerdydd.

"Sai'n rili cofio gormod o'r diwrnod. Ma cwpwl o bethe wedi dod nôl i fi, mynd i bigo coffi lan yn y bore a ca'l yn pigo lan 'da'n fêt i i fynd i'r gêm, ond sai'n credu bo' fi'n cofio gormod arall.

"Sai'n cofio bod mewn poen na ddim byd, jest mynd i gêm arall o rygbi a ddim disgw'l dim byd felna i ddigwydd i fod yn onest."

Ar ôl cael ei gludo i'r ysbyty cafodd ei symud i'r Bristol Heart Institue, ac ar ôl pum diwrnod, fe ddihunodd.

"O'dd e bach yn od, bach yn swreal rili, dino mewn ysbyty, we'n i'n weddol ddryslyd. Fi 'di bod yn cysgu ers sbel a wedyn 'di dino a gweld y'n wedgen i 'na.

"Ond unwaith ga'th popeth ei esbonio i fi wedyn, oni bach mewn sioc i ddachre ond yn hapus bod fi dal ar dir byw a bod pobl wedi bod yn gofalu am fi a'n deulu".

'Sawl llawdriniaeth'

Wedi bron i ddeufis yn yr ysbyty, fe wnaeth Steffan ddychwelyd adref ar ddechrau mis Rhagfyr.

Roedd rhaid iddo gael sawl llawdriniaeth tra oedd yn yr ysbyty, ac mae ICD wedi cael ei fewnosod i'w fron, sydd yn rhoi sioc i'r galon pe bai Steffan yn dioddef argyfwng meddygol tebyg eto.

"Nethon nhw neud cwpl o lawdriniaethau arnai, un i newid valve yn 'y galon i achos o'n nhw'n meddwl mai hwnna o'dd wedi achosi y ddamwain."

Image
Steffan Howells
Bu'n rhaid i Steffan gael mewnblaniad ICD, sydd yn rhoi sioc i'r galon pe bai yn dioddef argyfwng meddygol eto.

"Ond nathon nhw hefyd rhoi ICD fel sy' 'da Christian Eriksen... Gath e peiriant bach sydd yn agos i'w galon sydd yn gallu rhoi sioc iddo i amddiffyn yn erbyn beth ddigwyddodd, a ma' rywbeth tebyg 'da fi.

" 'Ma fe 'da fi nawr a gobitho bydd hwnna'n amddiffyn fi rhag hwnna ddigwydd 'to."

'Wedi safio'n fywyd'

Pan ddioddefodd Steffan ataliad ar y galon ar y cae, roedd doctoriaid o Glwb Rygbi Cymry Caerdydd a'u gwrthwynebwyr, Brynbuga, wedi rhoi CPR iddo.

Defnyddiodd y doctoriaid diffibrilwr hefyd, ac mae Steffan yn dweud bod ei ddefnydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr.

"Dwi a fy nheulu'n ddiolchgar fyth am y cefnogaeth ni 'di ca'l o ran y doctoriaid yn gweithio gyda Clwb Rygbi Cymry Caerdydd ac Usk... odd nhw'n brilliant.

"Y ffaith bod nhw 'di neud CPR arnai pryd 'ny, 'na beth sy' 'di safio'n fywyd i.

"Gethon ni fel clwb defibrillators wrth cwmni o'r enw Calonnau Cymru. Mae'n hynod o bwysig bod ni 'di ca'l y peiriant bach 'na achos nath hwnna siwt gyment o wahaniaeth ar y diwrnod rili."

Mae cyd-chwaraewyr Steffan, ei deulu a chybiau rygbi eraill wedi bod o gymorth i Steffan dros yr wythnosau diwethaf, ac mae'n ddiolchgar iawn am hynny.

"Y clwb yn gyffredinol, wedd pob un mor gefnogol, hyd yn oed y pobl sydd ddim yn meddygol, jyst pobl wi'n 'whare gyda, pob un sy'n gysylltiedig â'r clwb.

"Ma' nhw'n wych yn gofalu ar ôl y'n deulu i, a ar ôl i fi ddino ma pob un yn hala negeseuon caredig. Ni 'di cal siwt gymaint o gefnogaeth a ni'n hynod o ddiolchgar."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.