
Rhybudd am brinder difrifol gweithwyr lletygarwch
Rhybudd am brinder difrifol gweithwyr lletygarwch
Mae Ffederasiwn y Busnesau Bychain wedi rhybuddio y gall prinder gweithwyr lletygarwch amharu ar allu’r sector i godi ar ei thraed unwaith eto ar ôl i gyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio.
Y pandemig a Brexit sy’n gyfrifol am y prinder yn ôl y Ffederasiwn, sydd yn dweud fod eu haelodau yn ei chael yn anodd dod o hyd i staff wrth gynllunio i ailagor.
Fe fydd y diwydiant lletygarwch yn cael ailagor i gwsmeriaid dan do o ddydd Llun, 17 Mai ymlaen.
Dywed y sefydliad UKHospitality fod y diwydiant lletygarwch yng Nghymru wedi colli tua 20% o 135,000 o’i gweithlu oherwydd y pandemig, yn bennaf oherwydd diswyddiadau neu ffyrlo.
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb i’r sefyllfa.

Ar ôl rhai misoedd o fod ar gau, roedd perchnogion bwyty Catch 22 yn y Fali, Ynys Môn wedi bod yn prysur baratoi ar gyfer yr ailagor fis Mai.
Rhai wythnosau yn ôl, fe ddaeth i’r amlwg fod y diffyg diddordeb mewn hysbysebion ar gyfer swyddi yn y bwyty yn mynd i achosi trafferthion.
Dywedodd Bethan Evans, un o reolwyr y bwyty: “Ar y funud, da ni di bod yn reit lwcus o gal pobol yn gweithio o flaen tŷ, ond da ni di gweld ein bod wedi cael trafferth yn trio ffeindio chefs ar gyfer y gegin.
“Da ni’n teimlo bod hynny ella oherwydd y busnes ffyrlo, yr ansicrwydd o’r diwydiant lletygarwch ar y funud.
“Da ni di bod yn hyrwyddo amdan pobol i ymuno hefo ni yn y gegin ond di pobol jest ddim yn applyio really.”
Cadarnhaodd Ms Evans fod y perchnogion wedi gwneud y penderfyniad anodd i agor hanner y bwyty yn unig wythnos nesaf, gan nad oes digon o staff yn y gegin i weini’r holl fyrddau sydd yno.
Mae’r diwydiant lletygarwch yn un o’r sectorau sydd wedi teimlo effaith y pandemig waethaf, gyda rhan fwyaf o fwytai, caffis a thafarndai ar gau drwy hanner cyntaf 2021.
Ond ers i’r cyfyngiadau gael eu llacio, mae gwefan recriwtio Caterer.com wedi gweld cynnydd o 85% mewn hysbysebion ar gyfer swyddi lletygarwch.
'Angen codi eu capasiti'
Mae Ffederasiwn y Busnesau Bychain wedi clywed gan eu haelodau eu bod yn methu â dod o hyd i staff, neu fod y broses yn cymryd yn llawer hirach nag arfer.
Dywedodd Dr Llŷr ap Gareth, Pennaeth Polisi'r FfSB: “Mae 'na beryg os ydy hyn yn cario 'mlaen, ac yn dod yn broblem wrth i lefydd ailagor yn fwy – bod hyn yn mynd i fod yn broblem iddyn nhw wrth ddod 'nôl ar eu traed.
“Achos wrth gwrs, fydd y busnesau angen codi eu capasiti uchaf posib.”
Ychwanegodd fod y Ffederasiwn yn amcan y bydd ardaloedd gwledig yn dioddef yn waeth oherwydd prinder mewn gweithwyr lletygarwch.
“Hefo ardaloedd gwledig lle mae lletygarwch yn hollbwysig, mae hynny yn mynd i gael ryw double-impact yn fanno.”
Mae Mr ap Gareth yn credu mai buddsoddi mewn hyfforddiant yw’r ffordd ymlaen yn y tymor hir.
“Yn y tymor hir, mae’n bwysig bo ni’n edrych eto rŵan ar sut mae busnesau yn plethu gydag addysg uwch fel bod 'na fwy o gyfleoedd i bobl ifanc ddod i fewn i’r swyddi yna,” meddai.