Galwadau am dystysgrifau colledion beichogrwydd cyn 24 wythnos

11/12/2022

Galwadau am dystysgrifau colledion beichogrwydd cyn 24 wythnos

Mae yna alwadau i gyflwyno tystysgrifau swyddogol fydd yn caniatáu i golledion beichiogrwydd cyn 24 wythnos gael eu cydnabod yn ffurfiol yng Nghymru. 

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddwyd yn Lloegr y bydd menywod sy’n colli babi cyn 24 wythnos yn gallu derbyn tystysgrif swyddogol yn cofnodi eu colled. 

Mae teulu sydd wedi dioddef o enedigaeth farw yn gallu derbyn tystysgrif marwolaeth, os ddigwyddodd hynny ar ôl 6 mis.

Ond does dim modd eu cofrestru yn swyddogol os bu farw’r babi yn y groth cyn 24 wythnos. 

Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru fod pob teulu sy'n dioddef colled beichiogrwydd mewn unedau mamolaeth yn cael eu “cefnogi gan fydwragedd profiadol ac elusennau” fel Sands. Maen nhw hefyd yn cael “cynnig blychau atgofion” sy’n cynnwys tystysgrif. 

Fe wnaeth Elan Arfor Connor o Ynys Môn golli ei babi ym mis Awst y llynedd - yn 22 wythnos.

Image
Atgofion am fabi

Cafodd ei mab, Elis, ei eni yn fyw- ond bu farw munudau wedyn. 

“Es i mewn i early stages of labour ar y ddydd Mercher. Erbyn ddydd iau o ni’n gallu teimlo oedd rhywbeth ddim yn iawn. Es i mewn i’r ysbyty ac o ni ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd.

“Fe wnaethon nhw ddweud wrthai yn hwyrach ar ôl cael scan bod i’n 6.5cm, felly o nhw di gweud o ni’n cael fy mab i y noson yna yn 22 wythnos. 

“Roedd o’n y brofiad mwyaf afiach gallai medru egluro. Gorfod cael fy mab i a wylio fy mab i yn marw wedyn, ac oedd ddim byd o ni’n gallu ei wneud.

“Mae lot o triggers dwi’n cael. Ar ôl mynd trwy rhywbeth fel na, mae lot o bethau bach yn gallu settio’r emosiwn yna, Mae rhai diwrnodau yn afiach, dwi’n manageo ond oedd e’n brofiad afiach.”

Dywed Elan ei fod eisiau tystysgrif swyddogol i gydnabod bywyd Ellis.

Fodd bynnag, cafodd ei wybod nad oedd ganddi hawl i dystysgrif swyddogol oherwydd iddi golli Elis cyn 24 wythnos.

“Ar ôl i bobeth ddigwydd wnaethon nhw egluro byddai ddim yn cael dim byd fel ‘na. 

“Ti’n gallu cael fel comforting box a mae tystysgrif ti’n gael fyna, sef un ma’r ysbyty yn ysgrifennu. A wnes i adael yn feddwl yfe na gyd fi’n cael?”

Ar ôl ceisio cyngor wrth famau ac elusennau, fe wnaeth Elan ddarganfod y dylai hi allu derbyn tystysgrif oherwydd bod Elis yn fyw pan gafodd ei eni.

Ond roedd gweithwyr iechyd yn anghytuno â hi, a dywedwyd wrth Elan efallai y bydd yn rhaid iddi fynd i'r llys i ymladd am dystysgrif.

“Gofynon nhw wrthai os dwi’n siŵr mae hwn yn rhywbeth fi eisiau wneud.

“A nes i ddweud wel do ni ddim yn gallu cadw fy mab i’n fyw, ond fedrai wneud ryw fath o impact gyda enw fe. Mae fe’n haeddu’r tystysgrif yma.

“Wnaethon nhw egluro os oedd y doctoriaid ddim yn cytuno yna fydd rhaid i fi mynd i’r llys. Ac o ni’n bodlon mynd yr holl ffordd.”

Ar ôl iddi frwydro am ddau fis i gael tystysgrif, derbyniodd Elan dystysgrif genedigaeth a marwolaeth swyddogol. 

Mae hyn yn cael ei gofnodi fel marwolaeth newydd enedigol, sy’n golygu bod y babi yn cael ei eni naill ai cyn neu ar ôl y 24 wythnos ac yn dangos arwyddion o fywyd ond wedyn yn marw o fewn 28 ddiwrnod.

Ond yn ôl Elan, os oedd y tystysgrifau am golledion cyn 24 wythnos ar gael yng Nghymru, ni fydd rhaid iddi hi wedi gorfod brwydro. 

“Roedd o’n afiach yn gorfod brwydro. Ar ôl nes i eni Elis o ni’n sal hefyd gyda blood clots, ac roedd rhaid i mi fynd yn ôl ac ymlaen i’r ysbyty.

“Roedd corff fi yn treial gwella ar ôl y genedigaeth, ac oedd e just yn afiach yn gorfod ffrio. O ni’n teimlo fel os o ni ar ben fy hun a doedd neb yn gwrando.”

Roedd derbyn tystysgrif yn rhywbeth pwysig iawn i Elan a’i gwr.

“I fi yn bersonol, oherwydd o ni methu wneud dim byd i safio fe, o ni’n teimlo fel o ni  eisiau fe i bodoli yn swyddogol. Mae fe yn llyfrau am byth nawr. Oherwydd o ni methu dod a fe i’r byd fel o ni eisiau, wnâi wneud yn siŵr fod ei enw yn aros dim ots beth.”

“Mae just yn wneud e’n mwy wir i fi.” 

“Fi’n meddwl bod pawb yn wahanol am be ma nhw eisiau. Ond mae’r tystysgrif yn helpu i ddelio a beth sydd wedi digwydd.”

Roedd Zoe Clark-Coates MBE, Prif Swyddog Gweithredol SayingGoodbye.Org ar flaen y gad yn yr ymgyrch yn Lloegr ac mae’n galw am gyflwyno’r tystysgrifau yng Nghymru.

“Dechreuodd ein hymgyrch yn 2015, yn bennaf oherwydd roedd y bobol ni’n cefnogi yn dweud wrthym fod angen rhywbeth swyddogol arnynt a oedd yn cydnabod yr hyn yr oeddent wedi mynd drwyddo pan gollon nhw fabi cyn 24 wythnos.

“Roedd yna lawer o rwystrau ar hyd y ffordd. Un peth nad oeddem yn ei sylweddoli yw pe bai'r dystysgrif yn dod yn fandad cyfreithiol, ni fyddech yn gallu ei ddyddio yn ôl i’r gorffennol, ac roedd hynny'n bwysig i ni.

“Felly dros y blynyddoedd roeddem yn gallu wir edrych ar beth o ni eisiau cyflwyno. Roeddwn yn meddwl y byddai’n hynod greulon dweud pe bai eich colled wedi digwydd cyn y dyddiad hwn, yna ni fyddai’n cael ei chydnabod. Roedden ni eisiau rhoi’r dewis i rieni allu mynd yn ôl a chael tystysgrif os oedden nhw ei eisiau.”

Dywed Zoe, sydd wedi dioddef colled beichiogrwydd ei hun, ei bod yn hollbwysig rhoi'r opsiwn i rieni gael tystysgrif.

“Mae rhai yn aml yn cael eu gadael heb unrhyw fodolaeth gorfforol na fu'r babi hwn erioed wedi eu bodoli.

“Yr hyn ddywedodd pobl wrthon ni eu bod nhw eisiau oedd tystysgrif swyddogol er mwyn iddyn nhw allu trosglwyddo honno i lawr drwy’r cenedlaethau.

“Weithiau dim ond ar nodiadau meddygol y cofnodir y golled ac felly pan fydd y person yna yn marw mae'r bywyd hwnnw'n diflannu.

“Roedd pobl yn dweud wrthon ni eu bod nhw eisiau rhywbeth y gallan nhw ei gadw i brofi bod y babi yn bodoli.”

Yn ol Jessica Evans, o elusen Triniaeth Deg i Ferched Cymru, mae’r sefyllfa yn “loteri cod post” i fenywod yma. 

“Mae’n reit bwysig bod y tystysgrifau ar gael yng Nghymru.

“Mae na wahaniaethau sylweddol ar rhan sut mae colled babi yn cael ei trin yn Lloegr a gymharu a Gymru… a mae’r wahaniaethau’n cael eu amlygu gyda un gwlad hefo ddogfenni swyddogol ac un arall heb.”

“Bydd na lot o fuddion ystyrlon i bobl sydd wedi dioddef colled babi ac yn ystod beichogrwydd.”

“Yn y pendraw, dwi’n meddwl bydd y tystysgrifau yn cyfreithloni galar ac yn helpu prosesu hynny… yn enwedig os mae’r colled yn un cynnar, ond i bobl sy’n dioddef hynny - mae’n amser galed iawn i brosesu.”

“Rhan amla, mae gan neb rhywun i siarad gyda, felly bydd y tystysgrifau yma fel opsiwn-yn helpu nodi’r colled ac yn symbol o beth mae nifer yn dioddef.”

 Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 

 "Mae camesgor ar unrhyw gyfnod o feichiogrwydd yn achosi trallod. Mae pob teulu sy’n sy'n dioddef colli beichiogrwydd mewn unedau mamolaeth yn cael eu cefnogi gan fydwragedd profedigaeth, ar y cyd â Sands, ac yn cael cynnig blychau atgofion sy'n cynnwys tystysgrif geni.

 "Mae ein Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod yn parhau i gefnogi ystod o faterion iechyd menywod, cyn i gynllun iechyd deng mlynedd GIG Cymru ar gyfer iechyd menywod gael ei gyhoeddi.”

 Dywed Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod gwaith ar y mater yma yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.