Newyddion S4C

Dadgomisiynu Ysbyty Enfys Llandudno dros dro

11/05/2021
Newyddion S4C
NS4C

Bydd y tanciau ocsigen sydd y tu allan i Ysbyty Enfys yn Llandudno yn cael eu gwagio ddydd Mawrth yn rhan o raglen ar gyfer dadgomisiynu'r ysbyty dros dro.

Daw hyn ar ôl i Brif Swyddogion Iechyd y Deyrnas Unedig gytuno bod angen israddio lefel rhybudd o lefel 4 i lefel 3 ddydd Llun, wrth i nifer o achosion o Covid-19 ostwng yn barhaus ar draws y bedair gwlad. 

Cafodd Ysbyty Enfys Llandudno ei sefydlu yn Venue Cymru yn Ebrill 2020, ynghyd ag Ysbytai Enfys yng Nghanolfan Brailsford ym Mangor a Chanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint. 

Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ni ddefnyddiwyd Ysbyty Enfys Llandudno i drin cleifion COVID-19. 

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd y byddai'r broses o wagio'r tanciau yn un hir a "swnllyd", ond ddim yn risg i iechyd. 

"Nid oes angen y system ocsigen mwyach," dywedodd Betsi Cadwaladr.

"Am resymau diogelwch, ni ellir cludo'r tanciau ocsigen ar brydles i ffwrdd o'r safle ag ocsigen y tu mewn iddynt.

"Bydd y broses safonol hon yn swnllyd ac yn dibynnu ar y tywydd, gall gymryd hyd at ychydig oriau. Bydd cymylau yn weladwy o bell, fodd bynnag, nid yw'n niweidiol ac nid oes risg i iechyd. 

"Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymwybodol o'r gweithgaredd arfaethedig hwn, felly nid oes angen rhoi gwybod iddynt am hyn. Bydd y safle'n ddiogel tra bydd y broses hon yn digwydd."

Fe fydd y broses yn cychwyn bore dydd Mawrth, 11 Mai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.