Chwe blynedd o garchar am dwyllo dyn fu farw mewn ymosodiad bwa saeth
Mae dyn o Gaergybi wedi ei garcharu ar ôl iddo bledio'n euog i dwyll dros nifer o flynyddoedd.
Fe dwyllodd Richard Wyn Lewis o Lanfair-yn-Neubwll Gerald Corrigan a'i bartner Marie Bailey rhwng 2015 a 2019.
Cafodd Mr Corrigan, 74 oed, ei ladd gyda bwa croes y tu allan i'w gartref ar Ynys Môn.
Mae Terence Whall yn y carchar am 31 mlynedd am ei lofruddio yn 2019.
Cyfaddefodd Lewis, 51, ei fod wedi twyllo Mr Corrigan a Ms Bailey ac fe gafodd ei garcharu am gyfnod chwe blynedd yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener.
Dywedodd yr Arolygydd Arwel Hughes o Heddlu Gogledd Cymru ei fod yn "croesawu'r ddedfryd".
Nid oedd gan yr achos twyll unrhyw gysylltiad uniongyrchol gyda llofruddiaeth Mr Corrigan.