Newyddion S4C

Syr Tom Jones ‘yn ôl cyn hir’ ar ôl cael ail glun newydd

ITV Cymru 24/11/2022
Tom Jones.png

Mae Syr Tom Jones wedi dweud wrth gefnogwyr ei fod yn gwella ar ôl i lawdriniaeth am ail glun newydd “fynd yn dda iawn".

Mae’r canwr Cymreig enwog wedi cael clun dde newydd, ar ôl cael yr un llawdriniaeth ar ei glun chwith yn 2017. 

Fe wnaeth y canwr o Bontypridd bostio ar gyfryngau cymdeithasol ei fod nawr yn gwella ar ôl gwneud ei ymarferion ffisio.

Fe wnaeth Syr Tom addewid y byddai “yn ôl cyn hir.”

Aeth cefnogwyr ati i drydar eu dymuniadau gorau i Syr Tom.

Dywedodd un defnyddiwr: “Mae hynny’n newyddion gwych Tom, mor falch dy fod yn gwneud yn dda ac yn cadw at y ffisio.  Edrych ymlaen at dy weld yn perfformio eto.”

Dywedodd defnyddiwr arall: “Newyddion gwych. Gofala am dy hun boio."

Roedd sawl unigolyn wedi rhannu eu profiadau positif eu hunain o gael clun newydd, gydag un yn rhoi cysur bod y llawdriniaeth wedi rhoi “egni newydd” iddo.

Roedd yr artist, sy’n adnabyddus am ganu Sexbomb, wedi perfformio mewn dwy gig yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd yn ddiweddar, ynghyd â'r artistiaid Cymreig eraill, Stereophonics.  Cafodd y gigiau eu cynnal dros ddau ddiwrnod ym Mehefin 2022. 

Cafodd Syr Tom dair cân yn cyrraedd rhif un yn siartiau’r Deyrnas Unedig, ac 19 cân yn cyrraedd rhif 10 yn ystod ei yrfa ar hyd mwy na 60 mlynedd.

Yn 1966, fe dderbyniodd Wobr Grammy am Artist Newydd Gorau, a 37 mlynedd yn ddiweddarach fe wnaeth e dderbyn ei ail Wobr Brit, y tro hwn am Gyfraniad Rhagorol i Gerddoriaeth.

Fe gafodd ei urddo’n farchog gan Frenhines Elizabeth II yn 2005 am ei wasanaethau i gerddoriaeth. 

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Syr Tom wedi cael ei adnabod am fod yn feirniad ar y gystadleuaeth ganu, The Voice UK.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.