Newyddion S4C

Elvey MacDonald wedi marw'n 81 oed

23/11/2022
em

Mae Elvey MacDonald, un o siaradwyr Cymraeg enwocaf Patagonia, wedi marw'n 81 oed.

Cafodd ei eni yn Nhrelew yn 1941 a'i fagu yn y Gaiman, cyn symud i Gymru yn 1965 ar ôl gweithio am gyfnod mewn banc yn Nhrelew.

Roedd yn gyn-bennaeth adran Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, ar ôl cyfnod yn gweithio fel trefnydd cynorthwyol Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn swyddfa'r de.

Aeth ati i sefydlu Radio Ceredigion yn 1992, ac yn ddiweddarach roedd yn gyfrifol am drefnu teithiau i Batagonia a chynrychioli Cymdeithas Cymru-Ariannin ar banel Cynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut.

Mae'r Urdd wedi rhoi teyrnged i'r diweddar Elvey McDonald gan ddweud ei fod wedi gwneud "cyfraniad arbennig i fyd y celfyddydau".

"Fe ddatblygodd Elvey yr Eisteddfod i fod yn ŵyl llawn bwrlwm a hwyl gan sicrhau fod pob plentyn yn cael profiad arbennig – boed iddynt gyrraedd y llwyfan neu beidio," meddai llefarydd ar ran y mudiad.

"Gwnaeth Elvey gyfraniad arbennig i fyd y celfyddydau wrth greu gŵyl oedd yn cynnig cyfleoedd bythgofiadwy i genedlaethau o aelodau’r Urdd ac mae ein diolch yn fawr iddo.  Fel Mudiad mae ein meddyliau i gyd gyda theulu Elvey yn eu profedigaeth."

Dywedodd yr Eisteddfod y byddant yn "cofio ei waith gyda'r Urdd a'i gyfnod yn gweithio gyda ni hefyd. Rydyn ni'n anfon ein cydymdeimladau dwysaf at ei deulu a'i ffrindiau."

Fe ysgrifennodd nifer o gyfrolau yn cofnodi profiadau Cymry Patagonia, gan gynnwys 'Y Hirdaith' a 'Dyddiadur Mimosa'.

Enw ei hunangofiant oedd 'Mr Patagonia'.

Un oedd wedi ei adnabod ers degawdau yw'r Parchedig Eirian Wyn Lewis, sy'n gyn-Lywydd ar Y Gymdeithas Cymru-Ariannin.

Dywedodd wrth raglen Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru: "Mae e'n golled enfawr o'i golli fe achos o'dd Y Wladfa yn golygu gymaint iddo fe.

"Er bod e wedi gadael Y Wladfa ers blynyddoedd a byw fan hyn yng Nghymru ond o'dd e'n egnïol tu hwnt i hyrwyddo buddiannau'r Wladfa bob amser," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn "meddwl am y teulu" a'i bod yn "golled i ni yng Nghymru ac yn Y Wladfa yn ogystal".

Llun: Y Lolfa

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.