'Calon y Gwersyll' yn Llangrannog yn cael ei lansio yn swyddogol
Bydd datblygiad uwchraddio Gwersyll yr Urdd Llangrannog, "Calon y Gwersyll", yn cael ei lansio yn swyddogol ddydd Iau.
Mae'r datblygiad, sydd yn werth £6.1m, yn rhan o gynllun yr Urdd i uwchraddio cyfleusterau a gwasanaethau mewn tri o ganolfannau preswyl y mudiad, gan gynyddu'r gwasanaethau dysgu awyr agored a lles i blant ar hyd a lled Cymru.
Bydd y datblygiad yn eu galluogi i gynyddu'r nifer o breswylwyr yn sgil ardal breswyl newydd gyda llety i 52 o bobl.
Mae neuadd aml bwrpas hefyd wedi ei hadeiladu er mwyn cefnogi gweithgareddau diwylliannol a chymdeithasol, ardal fwyta gyda lle i dros 250 yn ogystal ag ystafelloedd dosbarth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £4.1m yn y datblygiad, ac fe fydd Calon y Gwersyll yn cael ei agor yn swyddogol gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS, ddydd Iau.
Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis, fod "dros 2 filiwn o blant a phobl ifanc wedi aros yng nghanolfannau preswyl yr Urdd ers sefydlu’r mudiad ganrif yn ôl".
"Mae’r gwersylloedd wedi cynnig cyfleoedd cadarnhaol gan roi profiadau ac atgofion melys i genedlaethau o bobl ifanc yn y Gymraeg.
"Mae gwersylloedd yr Urdd yn annog hyder a thwf wrth i blant a phobl ifanc ddysgu sgiliau newydd, siarad Cymraeg a chwrdd â phobl newydd."
Ychwanegodd Jeremy Miles AS fod "yr Urdd wedi cynnig cyfleoedd unigryw i bobl ifanc fwynhau wrth ddefnyddio’r Gymraeg am 100 mlynedd".
"Mae Calon y Gwersyll yn sicrhau y bydd hyd yn oed mwy o bobl yn gallu elwa o brofiadau gwerthfawr yr Urdd," ychwanegodd.
Llun: Chris Wells