Newyddion S4C

Perchnogion Manchester United yn ystyried gwerthu'r clwb

23/11/2022

Perchnogion Manchester United yn ystyried gwerthu'r clwb

Mae perchnogion Manchester United, y teulu Glazer, wedi cyhoeddi eu bod yn ystyried gwerthu'r clwb. 

Wedi 17 o flynyddoedd fel perchnogion, mae'r teulu Americanaidd wedi cyhoeddi eu bod yn "archwilio posibiliadau strategol newydd" i'r clwb. 

Yn ôl datganiad, gall yr opsiynau sy’n cael eu hystyried cynnwys "buddsoddiad newydd i'r clwb, gwerthiant y clwb, neu gytundebau eraill yn cynnwys y cwmni." 

Dywed cyfarwyddwyr y clwb, Joel ac Avram Glazer, fod opsiynau eraill yn cael eu hystyried er mwyn “cryfhau'r clwb ac er mwyn ei ddatblygu ymhellach.”

"Byddwn yn ystyried yr opsiynau er mwyn sicrhau fod Manchester United a’u cefnogwyr yn manteisio ar y cyfleoedd sylweddol i dyfu sydd ar gael heddiw ac yn y dyfodol."

"Trwy gydol y broses yma ein prif ffocws fydd i weithredu dros ddiddordebau'r cefnogwyr, cyfranddalwyr a rhandeiliaid." 

Mae presenoldeb y teulu fel perchnogion y clwb wedi hollti barn cefnogwyr ers blynyddoedd, gan i brotestiadau yn erbyn y teulu gael eu cynnal ar sawl achlysur. Yn sgil hynny, fydd nifer o gefnogwyr yn falch i weld fod y Glazers yn fodlon gwerthu'r clwb. 

Roedd rhai cefnogwyr wedi gwrthwynebu pan brynodd y teulu fwyafrif o'r clwb yn 2005, a arweiniodd at ddyled ariannol sydd bellach werth £500m.

Mae disgwyl i nifer o bobl ddangos diddordeb mewn prynu'r clwb, gan gynnwys Jim Ratcliffe, y dyn cyfoethocaf yn y DU.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.