Cyngor yn amddiffyn tynnu baner Jac yr Undeb i lawr

23/11/2022
S4C

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi amddiffyn tynnu baner Jac yr Undeb i lawr y tu allan i'w hadeilad.

Cafodd y faner ei chodi yn dilyn marwolaeth Y Frenhines Elizabeth II ar 8 Medi.

Roedd y faner yn chwifio nesaf at faneri Cymru, Sir Gaerfyrddin ac Wcráin, ond mae hi bellach wedi ei thynnu i lawr.

Mae Sam Rowlands, yr Aelod Ceidwadol o'r Senedd, wedi disgrifio hyn fel "cenedlaetholdeb pitw".

Ond mae'r Cyngor Sir wedi amddiffyn y penderfyniad gan ddweud fod y faner wedi ei chwifio am gyfnod estynedig tan ben-blwydd Ei Fawrhydi'r Brenin Charles III ar 14 Tachwedd "fel arwydd o barch" yn dilyn marwolaeth y Frenhines.

"O ystyried y ffaith bod postyn gwag mewn lleoliad amlwg yn y dref, dylai cynghorwyr Caerfyrddin chwifio baner yr Undeb gyda balchder a dathlu ein partneriaeth o genhedloedd," meddai Mr Rowlands.

"Mae hi'n eironig na wnânt nhw chwifio baner yr Undeb, ond yn chwifio baner Wcráin, cenedl yr ydym yn gywir i sefyll ochr yn ochr â nhw a darparu mwy o gefnogaeth nac erioed fel un Deyrnas Unedig."

Yn ôl Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Gâr, mae'n fater o "sicrhau cysondeb" rhwng safleoedd.

"Mae tri pholyn baner y tu allan i Neuadd y Dref yn Llanelli a Neuadd y Dref yn Rhydaman sy'n chwifio Baneri'r Sir, Cymru ac Wcráin," meddai.

"Er mwyn sicrhau cysondeb ar draws pob safle, mae'r baneri y tu allan i Neuadd y Sir, Caerfyrddin yn gyffredinol yn adlewyrchu'r arddangosfa tu allan i Neuaddau'r Dref yn Llanelli a Rhydaman.

“Cyhoeddwyd a chytunwyd ar Brotocol Baneri a Goleuo presennol Cyngor Sir Caerfyrddin gan y Cabinet ym mis Medi 2020. Mae'r protocol yn nodi'r dyddiau dynodedig pan fydd baner yr undeb yn cael ei chwifio.

"Mae Adran dros Dechnoleg, Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU yn annog awdurdodau lleol i chwifio Baner yr Undeb ar y dyddiau hyn, gan gynnwys ar benblwyddi uwch-aelodau o'r teulu Brenhinol ac ar achlysuron eraill o'r fath."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.