Newyddion S4C

'Gemau fideo yn gallu bod yn llesol i iechyd meddwl'

22/11/2022

'Gemau fideo yn gallu bod yn llesol i iechyd meddwl'

"Mae gemau fideo'n bwysig iawn i mi oherwydd efo rhai pethau dwi methu cymryd rhan. Ond efo gemau fideo dwi wastad yn gallu cymryd rhan efo pawb arall."

Mae Seth yn 13 ac yn defnyddio cadair olwyn oherwydd cyflwr y bydd ganddo am weddill ei oes. Mae o wrth ei fodd efo gemau oherwydd mae'n cael "profiadau fel pobol eraill."

Mae'n un o 44 miliwn o bobol yn y Deyrnas Gyfunol a 3 biliwn drwy'r byd sy'n chwarae gemau - diwydiant mwyaf y byd ym maes adloniant.

Ond i Seth mae'n fwy na hynny. "Mae gemau ar gael i bawb," meddai.

Mae llawer o rieni'n poeni bod eu plant yn treulio gormod o amser yn chwarae gemau fideo. Eto fe ddangosodd rhai astudiaethau fod cysylltiad rhwng gemau cyfrifiadurol a lles meddyliol, ac mae sefydliadau sy'n gweithio'n agos gyda phobol ifanc yn dweud, o'u defnyddio'n gymhedrol, y gall gemau helpu.

'Dianc o'r gwirionedd'

Mae Seth yn cael ei drin am gyflwr Distroffi Cyhyrau Duchenne mewn hospis plant yn Ne Cymru, ac mae ystafell gemau yno lle y gall ddianc i'r byd rhithiol.

"Un o'r pethau mwya pwysig i mi ydy gemau fideo," meddai Seth. "Alla'i gymryd rhan. Os wyt ti mewn cadair olwyn, elli di ddim wastad rhedeg o gwmpas efo pawb felly pan fydda'i'n chwarae Minecraft, mi alla'i redeg o gwmpas ac mae'n hwyl.

"Alla'i wneud mwy o'r pethau ac mae pobol yn fy nhrin i fel bod modd i mi wneud mwy.

"Mae hi fel dianc o'r gwirionedd a gadael i dy ddychymyg dorri'n rhydd. Dwi wrth fy modd efo gemau oherwydd mae o jyst yn helpu fi i brofi pethau fel pobol eraill."

Fe ddechreuodd Seth chwarae'r gemau yn ystod cyfnod clo cyntaf Covid yn 2020 ac roedd o'n mwynhau "codi pethau a ffrwydro tai fy mrawd" wrth chwarae Minecraft.

"Mae gemau'n dda os wyt ti'n sownd yn y ty ac all neb siarad efo'i ffrindiau, mae'n ffordd dda i gadw cysylltiad a chael hwyl efo nhw," ychwanegodd Seth, y defnyddiwr cadair olwyn cyntaf i fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.

Mae'r hospis sy'n gofalu amdano'n cefnogi'i ddefnydd o'r gemau, ac mae cronfa Plant mewn Angen yn talu am arbenigwr chwarae ar gyfer pobol ifanc â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd.

"Dwi'n meddwl bod gemau'n cynnig yr un cae chwarae, yn enwedig i'r rheini sydd methu chwarae yn y ffordd arferol," meddai Heather Roberts o hospis Hafan, ger y Barri ym Mro Morgannwg.

"Pan fyddan nhw yn yr amgylchedd gemau, dydyn nhw ddim yn gorfod meddwl am ofynion corfforol ac mae'n golygu bod y cyfan yn fwy cynhwysol, ac ar gael."

Hwb i hyder

Mae Martha'n dweud y bu'n ferch swil yn ei harddegau, heb feddwl llawer ohoni'i hun, ac fe gafodd ei bwlio'n yr ysgol nes iddi ymweld a'r ganolfan gymunedol leol ger ei chartref yn y Cymoedd. Fe sylwodd yno ei bod yn mwynhau Minecraft.

Fe ddechreuodd gredu ynddi'i hun ac fe wellodd ei hiechyd meddwl wrth ymuno â phrosiect gyda Phlant y Cymoedd. Gyda chymorth Plant mewn Angen, roedd hon yn brosiect ar y cyd a mudiad henebion Cadw i greu model rhithiol o Gymoedd y De.

"Fe wellodd gemau fy hyder 100%" meddai'r ferch 15 oed, sydd ers hynny wedi siarad yn gyhoeddus gyda gwleidyddion a rhoi cyflwyniad o'r gwaith i weindiogion Cymru yn y Senedd.

"Pan fyddai'r bobol oedd yn gweithio gyda ni'n gadael, fe fydden ni'n mynd i fyd Minecraft a thyllu danddaear gan greu tai bychain o dan y tir," dywedodd Martha, gyda gwen fawr o atgofion.

"Yn amlwg allen ni ddim adeiladu ar y tir oherwydd mi fyddai'n difetha'r cwm cyfan. Mi oedd hynny'n hwb i'm hyder oherwydd roedd gen i bobol i siarad a nhw, ac roedd o'n hwyl."

Cymaint ydy hunanhyder Martha bellach mae hi nawr yn gwirfoddoli gyda Phlant y Cymoedd ac yn helpu i arwain a chefnogi pobol ifanc yn rhai o ardaloedd tlotaf Cymru, a rhai o'r rheini heb gemau neu ddyfeisiau digidol gartref.

Roedd Martha'n teimlo ei bod wedi dysgu mwy wrth chwarae gemau addysgiadol nag wrth wneud gwaith ysgol traddodiadol gan eu bod yn "ffordd dda i ddatblygu sgiliau symudol, Mathemateg, Saesneg a Hanes heb iddo fynd yn aniddorol."

Un arall gafodd drafferthion yn ei arddegau oedd Dylan, a ddywedodd fod ei flynyddoedd cynnar yn gyfnod anodd er bod ei deulu'n gefnogol iawn.

"Fe gesh i fy mwlio yn fy mhlentyndod am fod yn anabl ac yn hoyw," meddai. "O'n i'n ypset a diflas, o'n i'n teimlo mod i'n outcast.

"Mae gemio i mi yn ddihangfa o realiti. Mae'n gwneud i mi deimlo'n hapus ac yn saff."

Pan oedd yn bump oed fe gafodd anableddau Dylan ddeiagnosis.

"Mae gen i bopeth dan haul," meddai. "Mae gen i ADHD, awtistiaeth, ataxia, dyspraxia ac mae gen i gyflwr prin o'r enw Arsacs.

"Ac wrth dyfu fyny dwi di cael fy mwlio am fod yn hoyw, fe esh i at chwarae gemau oherwydd roedd yn lle saff i mi."

Gan chwarae Mario World, Just Dance, Call of Duty, Minecraft a Roblos a bellach Nintendo Switch Tennis, fe ddywedodd fod gemau wedi'i helpu i ddod yn actor a chyflwynydd.

Erbyn hyn mae'n rhan o sefydliad Wicked Wales i wneuthurwyr ffilm ifanc, sy'n cael ei gynnal gan Grwp Cymunedol Meliden a Phrestatyn gyda chymorth Plant Mewn Angen. Mae Dylan yn dweud ei fod wedi cynhyrchu'i sioe ei hun, mae ffilm wedi'i gwneud am ei fywyd ac mae o wedi cyflwyno mewn gwyliau.

Mae elusennau iechyd meddwl yn dweud y gall gemau fideo fod yn llesol i bobol.

"Mae gemau'n gallu helpu pobol adeiladu cymunedau falla dydyn nhw ddim wedi'u cael o'r blaen," meddai Bethan Jones-Arthur o Mind Cymru.  "Wedyn mae hynny'n agor drysau i wneud ffrindiau newydd, i fod yn fwy cyfforddus a hefyd i agor lan am eu teimladau nhw, a dyna'r peth mwyaf ar gyfer ein lles ac ar gyfer ein hiechyd meddwl."

'Cydbwysedd yn hollbwysig'

Ond mae yna bryder hefyd am yr ochr negyddol o chwarae gemau, gyda rhai'n poeni bod modd mynd yn gaeth iddyn nhw.

"Gwnewch yn siwr eich bod yn cael digon o gwsg, digon o fwyd da, mae gweithgareddau corfforol os allwch chi neud nhw, maen nhw'n bwysig hefyd," meddai Ms Jones-Arthur. "Felly'r cydbwysedd yna yw'r peth sy'n hollbwysig."

Mae elusen Mind hefyd yn rhybuddio pobol rhag rhannu gwybodaeth bersonol hyd yn oed os ydy eraill yn rhoi'r argraff eu bod yn gyfeillgar.

Yn ôl Parent Zone, sefydliad sy'n rhoi cyngor i deuluoedd yn y maes digidol, mae yna beryglon y dylai rhieni a phobol ifanc fod yn ymwybodol ohonyn nhw.

"Mae deall y gemau y bydd eich plentyn yn eu chwarae - a pham - yn fodd i chi ddeall hefyd a ydy'r gemau hynny'n addas ac yn saff," meddai Giles Milton o Parent Zone.

"Mi ellwch chi wneud yr ymchwil ar-lein ond y ffordd orau ydy gofyn iddyn nhw ddangos i chi - neu chwarae efo nhw.

"Mae angen gosod rheolau hefyd a rhoi rhybudd pryd y bydd rhaid dod a phethau i ben - yn hytrach na stopio'n syth."

Os ydy darllen yr erthygl yma wedi cael effaith arnoch chi, mae gan Linell Gymorth BBC Action Line restr o sefydliadau all gynnig cefnogaeth a chyngor.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.