Newyddion S4C

Cwmnïau ynni yn "ddiffygiol" wrth drin cwsmeriaid bregus

22/11/2022
Nwy

Mae cwmnïau sydd yn cyflenwi ynni wedi bod yn ddiffygiol wrth drin cwsmeriaid bregus yn ystod gaeaf oer a chostus, yn ôl corff gwarchod y sector.

Dywedodd Ofgem wrth bob un o'r 17 cwmni a gymerodd ran yn ei adolygiad bod angen gwelliant ac roedd gan bump o’r cwmnïau wendidau difrifol.

Good Energy, Outfox, SO Energy, TruEnergy, a Utilita yw’r cwmnïau sy’n perfformio waethaf yn ôl Ofgem.

Roedd enghreifftiau o'r cwmnïau yn gofyn i gwsmeriaid ad-dalu cymaint fel bod nhw ddim yn gallu fforddio talu'r hyn yr oedd y mesuryddion yn ei ofyn. 

Mae rhai o'r cwmnïau wedi galw'r adolygiad yn "anghyflawn".

Yn ôl grwpiau defnyddwyr mae'r adroddiad yn un “hynod bryderus” ar adeg pan mae pobl yn cael eu taro gan filiau llawer uwch na’r gaeaf diwethaf.

Daeth yn amlwg nad oedd rhai cwsmeriaid mwyaf bregus yn gallu cysylltu â'u cyflenwr i ychwanegu at eu mesurydd nac i ofyn am gredyd cymorth.

Dywedodd Ofgem fod y mwyafrif o’r cyflenwyr wedi ymateb yn gadarnhaol â'r broses ac ers derbyn eu hadborth ym mis Hydref. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.