Newyddion S4C

Stadiwm Qatar yn gwrthod het enfys cyn-gapten Cymru

Newyddion S4C 21/11/2022

Stadiwm Qatar yn gwrthod het enfys cyn-gapten Cymru

Cafodd cyn-gapten Cymru, Laura McAllister, drafferth wrth fynd mewn i'r stadiwm i wylio Cymru yn erbyn yr UDA nos Lun, oherwydd ei bod yn gwisgo het fwced gyda phatrwm o liwiau’r enfys. 

Roedd Ms McAllister yn ceisio mynd mewn i Stadiwm Ahmad Bin Ali i wylio Cymru yn herio'r UDA yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd ers 64 mlynedd. 

Ond cafodd ei rhwystro oherwydd ei het amryliw, sydd yn symbol o gefnogaeth i gymunedau LHDT+. 

Yn gynharach ddydd Llun, fe wnaeth grŵp cefnogwyr LHDT+ Cymru, y Wal Enfys, ddweud ar gyfryngau cymdeithasol fod eu haelodau wedi wynebu trafferthion wrth wisgo'r het enfys yn Qatar. 

Mae beirniadaeth chwyrn wedi bod o Qatar am ei agweddau tuag at bobl sydd yn LHDT+, lle mae bod yn hoyw yn anghyfreithlon. 

Mae nifer o ddigwyddiadau eisoes wedi hollti barn wrth i awdurdodau Qatar geisio cyfyngu'r defnydd o symbolau LHDT+.

Bu rhaid i Gymru wneud tro pedol ar wisgo'r band braich enfys 'OneLove' oriau cyn eu gêm yn erbyn yr UDA, wedi i FIFA fygwth cosbi capteiniaid oedd yn gwisgo'r symbol gyda cherdyn melyn. 

Wrth siarad ag ITV News, dywedodd Ms McAllister fod staff diogelwch yn y stadiwm wedi dweud fod yr het yn "symbol oedd wedi'i wahardd." 

"Do'n i ddim yn mynd i gymryd fy het i ffwrdd ond roedden nhw'n mynnu os nad oeddwn i'n tynnu'r het nad oedd modd i ni ddod mewn i'r stadiwn." 

"Ond dwi meddwl ges i ryw fuddugoliaeth fechan oherwydd nes i lwyddo i guddio'r het a chael hi mewn." 

"Dwi’n meddwl ni wedi cael digon o rybudd yr oedd y Cwpan y Byd yma yn mynd i fod yn gystadleuaeth lle nad oedd hawliau dynol, hawliau LHDT+, hawliau menywod yn mynd i gael eu parchu."

"Mae'n hynod o bwysig rydym yn cadw at ein egwyddorion, hyd yn oed os yw rhywun yn herio ni."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.