Dyn yn dioddef anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad ym Mlaenau Ffestiniog
21/11/2022
Mae dyn yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ym Mlaenau Ffestiniog.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gar am 13:00 ddydd Sadwrn ar ffordd yr B4391.
Fe gafodd y gyrrwr ei gludo i Ysbyty Stoke gan Ambiwlans Awyr gydag anafiadau sy'n bygwth ei fywyd.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod B175068.