Cabinet Cyngor Gwynedd i ystyried codi trethi ail gartrefi i 150%
Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn ystyried cynnig ddydd Mawrth i gynyddu'r dreth ar ail gartrefi i 150% o'r flwyddyn nesaf.
Mae'r Cabinet yn ystyried argymell fod y Cyngor Llawn yn cynyddu'r Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi ym mis Ebrill o'i lefel bresennol o 100%.
Daw hyn wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd Cynghorau Sir yn gallu cynyddu'r dreth gyngor ar ail gartrefi i 300% o fis Ebrill 2023. Y cap a gafodd ei osod yn 2017 oedd 100%.
Bwriad yr aelod â chyfrifoldeb dros Gyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, ydy bod unrhyw arian ychwanegol fyddai gan y Cyngor yn sgil y newid yn cael ei glustnodi ar gyfer taclo digartrefedd yn y sir.
Yn ôl Cyngor Sir Gwynedd, mae cynnydd o 47% wedi bod yn y nifer sy'n ddigartref yng Ngwynedd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ei gynnal am 28 diwrnod ym mis Medi a Hydref er mwyn i'r aelodau allu gwneud penderfyniad.
Yn ôl y Cynghorydd Thomas, hon oedd yr ymgynghoriad a gafodd y nifer fwyaf o ymatebion yn y blynyddoedd diweddar, gyda mwy na 7,300 o bobl wedi ymateb.
Mae'n dweud hefyd bod yr argyfwng tai yng Ngwynedd yn cael "effaith ddifrifol" ar ddigartrefedd yn y sir.