Newyddion S4C

Rishi Sunak 'wedi ei ymrwymo' i egwyddorion Brexit

Sky News 21/11/2022
Rishi Sunak - Llun Trysorlys

Mae'r prif weinidog Rishi Sunak wedi pwysleisio ei fod wedi ymrwymo i Brexit.

Wrth annerch cynhadledd flynyddol y CBI sy'n cynrychioli miloedd o arweinwyr busnes, dywedodd Mr Sunak ei fod yn benderfynol na fyddai Prydain yn agosáu at gyfreithiau'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.

Roedd cryn ddyfalu y byddai Llywodraeth y DU yn ceisio dod i gytundeb gyda'r UE fyddai'n debyg i'r berthynas sydd gan y Swistir gyda'r Undeb.

Wrth annerch y gynhadledd, dywedodd y prif weinidog ei fod wedi "pleidleisio dros Brexit, rwyf yn credu yn Brexit ac rwyf yn gwybod y gall Brexit ddosbarthu manteision enfawr a chyfleoedd i'r wlad."

Darllenwch ragor yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.