Newyddion S4C

S4C

Iran yn arestio actorion am dynnu sgarffiau pen

The Guardian 21/11/2022

Mae dwy actores amlwg o Iran wedi’u harestio am gefnogi'r protestwyr sydd yn gwrthwynebu llywodraeth y wlad.

Mae Hengameh Ghaziani a Katayoun Riahi wedi’u cyhuddo o gydgynllwynio a gweithredu yn erbyn awdurdodau Iran, meddai asiantaeth newyddion y wlad.

Fe ymddangosodd y ddwy ddynes yn gyhoeddus heb eu sgarffiau pen.

Fe ddechreuodd y protestiadau ym mis Medi ar ôl marwolaeth dynes yn nalfa’r heddlu.

Cafodd Mahsa Amini, 22, ei harestio gan yr heddlu ar gyhuddiad ei bod wedi torri rheolau llym hijab. Bu farw ar 16 o Fedi, dridiau yn ddiweddarach.

Cafodd Ms Ghaziani a Ms Riahi eu cadw yn y ddalfa ddydd Sul ar orchymyn swyddfa erlynydd Iran.

Mae'r ddwy yn actorion sydd wedi ennill sawl gwobr am eu gwaith. 

Cyn yr arestiad, ysgrifennodd Ms Ghaziani ar y cyfryngau cymdeithasol: “Beth bynnag sy'n digwydd, byddaf wastad yn sefyll gyda phobl Iran”.

“Efallai mai dyma fy mhost olaf,” ychwanegodd.

Rhagor yma. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.