Newyddion S4C

Twitter yn codi'r gwaharddiad ar Donald Trump

The Washington Post 20/11/2022
Donald Trump

Mae perchennog Twitter Elon Musk wedi codi’r gwaharddiad ar gyn-arlywydd yr UDA Donald Trump.

Fe gafodd Mr Trump ei wahardd o’r cyfrwng cymdeithasol yn 2021 yn dilyn ymosodiadau ar adeilad Capitol Hill yn Washington DC.

Dywedodd Mr Musk ei fod wedi cynnal arolwg barn gan ddweud fod 51.8% o 15 miliwn o ddefnyddwyr Twitter wedi pleidleisio dros godi’r gwaharddiad.

Dywedodd Mr Musk; “Mae’r bobl wedi siarad.”

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.