Newyddion S4C

Buwch yn creu llanast yn Hendy-gwyn

Marchnad Hendy-gwyn ar Daf

Bu’n rhaid i Heddlu Dyfed Powys ddifa buwch oedd wedi dianc o fart Hendy-gwyn ar Daf ddydd Sadwrn.

Fe redodd y fuwch yn wyllt trwy’r dref gan ymosod a sathru ar ddyn oedrannus a gafodd anafiadau difrifol.

Bu’n rhaid i’r ambiwlans awyr gludo’r dyn i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Bu’n rhaid hefyd atal trenau wrth i’r fuwch grwydro ar hyd y rheilffordd.

Dywedodd yr heddlu oherwydd y perygl o niwed i’r cyhoedd nid oedd unrhyw ddewis ond i ddifa’r anifail yn drugarog.

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod am y digwyddiad.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.