Rhybudd llifogydd mewn grym ar gyfer gogledd ddwyrain Cymru
19/11/2022
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd llifogydd i ardaloedd yng ngogledd ddwyrain Cymru.
Mae rhybudd 'llifogydd - byddwch yn barod' mewn grym ar gyfer dalgylch Yr Alun ac afon Alun ger Yr Wyddgrug.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio bod disgwyl llifogydd ar dir a ffyrdd isel yn yr ardaloedd yma.
Dywed CNC bod angen i bobl gymryd gofal.