'Dylai rhywioldeb ddim rhwystro menywod hoyw rhag mynd i Qatar'
Mae dwy fenyw hoyw fydd yn teithio i Qatar i gefnogi Cymru yng Nghwpan y Byd wedi dweud na ddylai eu rhywioldeb eu hatal rhag gallu cefnogi'r tîm cenedlaethol yn y bencampwriaeth.
Mae Carys Mai a Lowri Fron yn paratoi i gefnogi'r dynion mewn coch yn eu Cwpan y Byd cyntaf ers 1958.
Ond mae'r teimladau am deithio i Qatar ar gyfer y bencampwriaeth yn rhai cymysg.
Dywedodd Lowri wrth Newyddion S4C: " Ti yn clywed am gymaint o bobl sydd ddim yn mynd mas 'na dyle fod yn mynd mas yna, sydd wedi bod yn cefnogi Cymru am lawer hirach na beth ni wedi.
"Band wagon cefnogwyr i ni mewn gwirionedd dros y chwe mlynedd diwethaf.
"Ma' 'da ti bobl eraill sydd 'di bod yn cefnogi ers blynyddoedd, neith 'neud safiad a ddim mynd mas 'na achos fod e'n mynd i'r fath wlad."
"Yn amlwg, ni wedi meddwl amdano fe," meddai Carys.
"Ond dwi ddim yn meddwl dylai'r ffaith bod ni'n hoyw stopio ni rhag mynd i gefnogi y wlad ni'n ei garu ac yn ei gefnogi, ac oherwydd hynny fi'n meddwl ma' rhaid i ni fynd, ma' rhaid i ni 'neud y penderfyniad 'na a mynd.
"Allwn ni ond gobeithio bod cynnal twrnamaint o'r fath yn mynd i newid meddyliau, a bod Qatar yn cadw i fynd ar y siwrnai 'na i track record gwell."
Ond yn ôl Lowri, ni fydd yn gwario llawer o arian yn y wlad fel nad yw'r economi yno yn medru manteisio o'i hymweliad.
"Ma' fe'n warthus bod Cwpan y Byd yn cael ei gynnal mewn fath wlad lle mae safon hawliau dynol mor isel. 'Sa i'n bwriadu gwario lot o arian mas 'na."
"A falle bo ni bach yn naïve," meddai Carys.
"Ni'n freintiedig lle ni'n byw ond 'yn ni? A falle pan awn ni mas 'na nawn ni sylweddoli falle dylen ni ddim fod wedi neud y penderfyniad."