Newyddion S4C

Cefnogi Cymru yng Nghwpan y Byd yn Tenerife nid Qatar 

Cefnogi Cymru yng Nghwpan y Byd yn Tenerife nid Qatar 

NS4C 20/11/2022

Wrth i gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y byd agosáu ddydd Llun mae cefnogwyr ar draws Cymru a thu hwnt wedi heidio i gefnogi’r tîm yn Qatar.

Ond nid dim ond yn Qatar yn unig bydd modd gweld y Wal Goch dros yr wythnosau nesaf. Mae mannau cefnogi answyddogol wedi ymddangos mewn sawl lleoliad a gwlad.

Bydd Alaw Haf o’r Wyddgrug yn teithio i Tenerife, Yr Ynysoedd Dedwydd, i wylio’r gemau. 

Cost effeithiol

“Y plan oedd mynd i Qatar ond erbyn nes i brisio fo fyny o’n i meddwl mae o mor ddrud. 

“Dwi angen car newydd, dwi angen tŷ, does'na no way ffordd i fi allu fforddio talu  tu a£4,000 neu £5,000 i fynd i wylio Cymru. 

“Er swni wedi lyfio fo ond oni angen bod yn realistig bo’ fi ddim yn gallu fforddio fo.”

Er bod pris teithio i Qatar wedi bod yn ffactor yn ei phenderfyniad i beidio mynd i Qatar, mae Alaw yn credu y bydd hi’n gallu “ymlacio mwy yn Tenereife” hefyd. 

“Dwi ddim isio yfed gormod, gwisgo rwbath yn anghywir, swni ddim isio bod mewn trwbl chwaith.

“Felly pam nes i glywed bod pobl yn mynd i Tenerife am fel ffracsiwn y pris o’n i fel ‘ia yn syth’.”

Image
S4C

'Fanzone'

Yn ôl Alaw bydd y Wal Goch yn “hollol amlwg” yn Tenerife gan fod “gymaint wedi penderfynu mynd yno.

“Nes i weld lot ar Twitter bod pobl yn mynd i Tenerife, mae o fel ryw fanzone ac mae 'na cwpwl o pubs wedi dweud bydda nhw yn hostio ni felly ma’ nhw’n barod am danan ni.”

Er na fydd Alaw yn cael gweld y gemau yn fyw, mae hi’n gobeithio bydd yr awyrgylch yn Tenerife yn arbennig. 

“Dwi meddwl ma’ pobl am gael dau brofiad gwahanol, os ti yn Qatar ti am gael gweld y gemau yn fyw, a bydd hwnna yn anhygoel ond ti ddim am gael yr awyrgylch na fel oedd yn Ffrainc adeg yr Euros. Felly dwi'n gobeithio gawni'r ochr yna. 

"Dwi’n rili excited i fynd, dwi’n meddwl bydd Cwpan y Byd yn dod a hapusrwydd i bawb."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.