Carchar i yrrwr fan am achosi marwolaeth seiclwr ar yr A40

18/11/2022
Lynwen Thomas

Mae gyrrwr fan a achosodd marwolaeth seiclwr oherwydd ei fod yn defnyddio'i ffôn tra'n gyrru wedi ei garcharu am bum mlynedd.

Cafodd Simon Lee Draper, 42 oed, o Ffordd Meidrim, Sanclêr, y ddedfryd yn Llys y Goron Abertawe.

Bu farw'r swyddog heddlu, Lynwen Thomas, nad oedd ar ddyletswydd ar y pryd, wrth seiclo ar yr A40 tua'r gorllewin.

Fe darodd Ford Transit, oedd wedi ei yrru gan Draper, Ms Thomas am tua 18:40 a bu farw yn y fan a'r lle.

Roedd Draper wedi cyfaddef i gyhuddiad llai difrifol o achosi marwolaeth drwy yrru'n esgeulus ac fe wnaeth geisio dadlau mai ei fab 13 mis oed oedd yn defnyddio'i ffôn ar y pryd.

Ond dywedodd arbenigwr paediatreg ei bod hi'n amhosib i blentyn yr oedran hynny i berfformio'r gweithgareddau a gafodd eu recordio.

Cafodd Draper ei wahardd rhag gyrru am chwe blynedd ac fe fydd yn rhaid iddo sefyll prawf gyrru estynedig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.