
‘Heriol iawn’ teithio dramor ar gyfer llawdriniaeth merch dwy oed
‘Heriol iawn’ teithio dramor ar gyfer llawdriniaeth merch dwy oed
Mae mam sy’n wreiddiol o Fethesda wedi dweud wrth Newyddion S4C fod teithio dramor ar gyfer llawdriniaeth ei merch dwy oed yn “heriol iawn”.
Mae Rhian Hibberd a’i merch Millie yn byw yn Efrog, ond ym mis Rhagfyr bydd Millie yn teithio i Barcelona i gael llawdriniaeth i alluogi iddi gerdded.
Mae gan Millie syringomyelia, cyflwr prin sy'n achosi i hylif ffurfio o fewn llinyn asgwrn y cefn.
“Tydi hi methu cerdded ar ben ei hun, dydi hi ddim yn gallu sefyll yn annibynnol chwaith. Mae geno hi ffrâm i helpu hi sefyll,” meddai Rhian.
“Dydy’r llawdriniaeth yma ddim ar gael yn nunlla arall yn y byd, mae cyflwr Millie yn ofnadwy o brin. Felly does 'na ddim llawer o bobl yn arbenigo ynddo fo.”
Daeth cyflwr Millie ddim yn amlwg nes oedd hi’n chwe mis oed.
“Roedd yn dipyn o her i gael gwybod be' sydd ganddi rili, doedd ‘na ddim problemau meddygol amlwg," meddai.
“Nathon ni ddechrau sylwi pan oedd hi’n chwe mis oed bod hi’n defnyddio un llaw yn fwy na’r llall a ddim yn eistedd fyny ar ben ei hun.
“Fel oedd amser yn mynd ymlaen oeddan ni’n trio cael pobl i ddod i weld hi, ond roedd hynny reit anodd.”
'Mae o yn costio tua €22,000'
Mae’n rhaid i’r teulu dalu am y llawdriniaeth gan nad yw ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd yn y DU.
“Mae o yn costio tua €22,000 felly ar y funud 'da ni yn trio codi cymaint â da ni’n gallu at gostau," meddai.
“Hyd yn oed i deithio i Barcelona 'da ni’n gorfod meddwl am sut 'da ni am wneud hynny achos mae Millie yn anghyfforddus yn eistedd am gyfnodau felly 'da ni yn edrych mewn i hedfan efo cadair olwyn.
“Mae wedi gwneud pethau yn heriol iawn. Ac yn amlwg mae ganddon ni gostau teithio ac ysbyty sydd yn adio at y gost.”

Mae Rhian eisiau gweld triniaethau fel hyn yn cael eu hariannu gan y Gwasanaeth Iechyd.
“Os mae hwn yn gweithio iddi bydd o yn arbed gymaint o bres i’r NHS yn y dyfodol achos hebddo fo fydd hi angen cadair olwyn am byth.
“Bysa fo yn help yn ariannol, ond hefyd plant bach mor ifanc ma’n newid ei bywydau nhw.”
Mae Newyddion S4C wedi gofyn am ymateb gan Wasanaeth Iechyd Gwladol Lloegr a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Gyda’r llawdriniaeth yn agosáu, mae Rhian yn gobeithio y bydd y daith i Barcelona yn llwyddiannus.
“Dwi meddwl bod Millie isio mynd i fusnesu bach mwy a rhedeg efo’i ffrindiau," meddai.
“Ma’ hi’n amlwg yn edrych ar ei ffrindiau ac yn gweld nhw’n cerdded o gwmpas ac yn stryglo ei hun. Mae hi’n rhwystredig yn aml, ac fel ma' hi’n mynd yn hŷn ma’ hynny yn dod yn llawer mwy amlwg hefyd.”