Newyddion S4C

Hefin David wedi 'torri cod safonau ASau' yn ôl adroddiad

18/11/2022
Hefin David

Mae'r Aelod o'r Senedd, Dr Hefin David, wedi "torri cod safonau ASau" yn ôl adroddiad gan y Comisiynydd Safonau.

Mae'r adroddiad yn cyfeirio at neges a gafodd ei chyhoeddi ar Twitter ym mis Mawrth 2022.

Nid yw'r neges yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad er mwyn cadw'r gwyn yn un anhysbys.

Dywedodd y Comisiynydd fod y neges yn un "di-chwaeth" ac yn "ymosodiad personol sarhaus".

Ychwanegodd fod "camddefnydd o gyfryngau cymdeithasol" yn "adlewyrchu’n wael ar Dr David" ac yn "dwyn anfri" ar y Senedd.

Yn ôl Douglas Bain, sydd wedi bod yn y rôl ers mis Ebrill 2021, roedd ymddygiad Dr David "dipyn yn is na'r safonau sydd eu hangen".

Dywedodd Dr David wrth ymateb i'r Comisiynydd Safonau ei fod wedi derbyn ei fod yn "anaddas", gan ymddiheuro i'r person dan sylw a dileu'r neges.

Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Dr Hefin David am sylw pellach.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.