Cyfle i chwaraewyr ifanc Cymru i serennu yn erbyn Georgia
Fe fydd yna gyfle i rai o chwaraewyr ifanc Cymru serennu wrth iddynt baratoi i wynebu Georgia yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.
Mae'r prif hyfforddwr Wayne Pivac wedi gwneud sawl newid i'w garfan yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Yr Ariannin dros y penwythnos, gan roi cyfle i sawl chwaraewr iau.
Fe fydd y rhan fwyaf o gefnogwyr Cymru yn ystyried yr ornest yn erbyn Georgia fel y gêm hawsaf yng nghyfres yr hydref eleni ac felly yn gyfle i Pivac arbrofi gyda'i dîm lai na blwyddyn cyn Cwpan y Byd.
Ymhlith y blaenwyr, mae'r ail reng ifanc Ben Carter yn dechrau ei gêm gyntaf i Gymru ers haf y llynedd, gan baratoi i ennill ei wythfed cap.
Mae'n ymuno â Jac Morgan, a fydd yn ennill ei bumed cap, sydd wedi ennill lle yn y tîm cychwynnol wedi iddo greu argraff oddi ar y fainc yn erbyn yr Archentwyr.
Fe fydd Josh Macleod hefyd yn ennill ei gap cyntaf i Gymru, wedi aros am yn hir i wisgo'r crys coch am y tro cyntaf. Ddwywaith mae Macleod, sydd yn dechrau fel wythwyr, wedi bod ar drothwy ennill ei gap gyntaf cyn i anaf chwalu ei freuddwydion.
Cafodd y Scarlet ei enwi yn y tîm i wynebu'r Alban yn y Chwe Gwlad y llynedd, cyn dioddef anaf pedwar diwrnod cyn y gêm. Daw hyn wedi siom yng nghyfres yr hydref yn 2020, pan wnaeth anaf arall ei orfodi i wylio o'r ochrau ar ôl cael ei enwi yn y garfan.
Mae Pivac wedi enwi rhagor o enwau amhrofiadol ar y fainc. Fe allai Dafydd Jenkins, sydd ond yn 19 oed ond eisoes wedi arwain ei glwb Caerwysg fel capten, a mewnwr y Scarlets, Dane Blacker, ennill eu capiau cyntaf dros eu gwlad.
Er bod nifer o gapiau newydd, mae Pivac wedi cynnwys sawl enw profiadol i chwarae wrth eu hochr. Ni fydd y prif hyfforddwr eisiau dioddef embaras o golli i dîm Georgia sydd wedi gwella'n sylweddol yn ddiweddar.
Llwyddodd y Lelos i drechu'r Eidal ym mis Gorffennaf, llai na phedwar mis wedi i'r Azzurri guro Cymru yn Stadiwm y Prinicpality am y tro cyntaf erioed.
Fe wnaeth Georgia hefyd herio Samoa yn galed dros y penwythnos, yn colli o un pwynt yn unig.
Wrth edrych ar hanes, mae Georgia hefyd wedi peri sialens i Gymru yn y gorffennol, gyda'r dynion mewn coch ond yn ennill o 18-0 y tro diwethaf i'r ddau dîm gwrdd yn 2020.
Fe fydd rhaid i Gymru fod yn ofalus i beidio bychanu tîm sydd yn adnabyddus ar draws y byd am gryfder ei blaenwyr.
O ganlyniad, mae nifer o sêr Cymru, fel Ken Owens, Justin Tipuric, Tomos Williams a George North, wedi cadw eu llefydd yn y garfan.
Fe fydd Pivac hefyd yn falch o groesawu Josh Adams yn ôl i'r tîm ar ôl gwella o anaf, sydd yn dechrau ar yr asgell ynghyd ag Alex Cuthbert, wrth i Louis Rees-Zammit barhau fel cefnwr.
Bydd cefnogwyr Cymru yn gobeithio y gall y tîm ennill ei ail gêm yn olynol, wedi iddynt daro 'nôl o gweir yn erbyn Seland Newydd i guro'r Ariannin wythnos diwethaf.