Llofruddiaeth Rhyd-wyn: Dyn yn euog o ladd ei bartner

North Wales Live 17/11/2022
Buddug Jones

Mae dyn o Fôn wedi ei ddyrfarnu'n euog o lofruddio ei gymar ger Caergybi yn gynharach eleni.

Fe wnaeth Colin Milburn, 52 ladd Buddug Jones yn ei thŷ ym Maes Gwelfor, Rhydwyn, ar 22 Ebrill.

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau, fe gymerodd y rheithgor chwe awr a hanner i ddod i benderfyniad, gyda mwyafrif o 11 i un.

Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands wrth Milburn mai dim ond un dedfryd y gallai ei roi, a hynny oedd carchar am oes.

Fe fydd Millburn yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron y Wyddgrug ar 23 Tachwedd.

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.