Oes o garchar i ddyn am lofruddio menyw 79 oed yng Nghasnewydd
Mae dyn wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio menyw 79 oed.
Cafodd Mari O'Flynn, 79, ei darganfod yn farw ym mis Mai mewn cyfeiriad ar Heol Leach yn ardal Bettws yng Nghasnewydd.
Fe gafodd Simon Parks, 52, o Gasnewydd ei ddedfrydu ddydd Iau yn Llys y Goron Casnewydd ar ôl pledio'n euog i lofruddio Ms O'Flynn.
Mewn teyrnged, dywedodd teulu Mari O'Flynn fod "ein mam wedi ein gadael mewn amgylchiadau ofnadwy, ond rydym yn gobeithio fod heddiw yn ein galluogi i symud ymlaen. Mae hi'n amser rwan i ni alaru yn breifat a cheisio symud ymlaen gyda ein bywydau.
"Mae heddiw a'r chwe mis diwethaf wedi bod yn ofnadwy, ac mae yna ychydig o dawelwch meddwl yn gwybod fod y dyn a oedd yn gyfrifol wedi ei garcharu."