Y Post Brenhinol yn gwneud cais i beidio dosbarthu llythyrau ar ddyddiau Sadwrn

Mae'r Post Brenhinol wedi gofyn i Lywodraeth y DU am yr hawl i beidio dosbarthu llythyrau ar ddyddiau Sadwrn.
Dadl y gwasanaeth yw bod cynnig gwasanaeth ar Sadyrnau yn anghynaladwy yn ariannol a bod nifer o'r cyhoedd yn meddwl nad yw gwasanaeth ar benwythnosau yn angenrheidiol.
Dywed y Post Brenhinol eu bod angen symud i wasanaeth dosbarthu llythyrau o ddydd Llun i dydd Gwener yn unig cyn gynted â phosib. Er mwyn i hyn ddigwydd byddai angen i Lywodraeth y DU ganiatáu'r newidiadau dan sylw, a gyda sicrwydd na fyddai'n effeithio ar eu gwasanaeth craidd drwy weddill yr wythnos.
Fe wnaeth y Post Brenhinol adrodd eu bod wedi gwneud colledion o £219m rhwng Ebrill a Medi, ac mae'r cwmni wedi rhybuddio y gallai 10,000 o swyddi gael eu cwtogi erbyn mis Awst 2023.
Darllenwch fwy yma.