Jeremy Hunt yn amlinellu mesurau i daclo'r 'sialensiau' sy'n wynebu'r economi
Mae'r Canghellor Jeremy Hunt wedi dweud ei fod yn "onest am y sialensiau" sy'n wynebu'r economi wrth iddo gyhoeddi datganiad yr hydref.
Roedd Mr Hunt yn amlinellu'r polisïau ariannol fydd gan y llywodraeth yn ystod y misoedd nesaf i fynd i'r afael â lefelau chwyddiant uchel.
Dywedodd bod tair blaenoriaeth ganddo, sef "sefydlogrwydd, twf a gwasanaethau cyhoeddus".
Yn ôl Llywodraeth y DU, bydd Llywodraeth Cymru yn cael £1.2 biliwn ychwanegol yn dilyn y cyhoeddiad.
Ond mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi dweud fod y cyhoeddiad yn rhoi "pwysau pellach ar filiynau o bobl sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd gyda'r argyfwng costau byw".
"Byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn ni i helpu pobl yn ystod y cyfnod anodd hwn - ond bydd pob un ohonom yn talu am gamgymeriadau Llywodraeth y DU am flynyddoedd i ddod," meddai.
Wrth ymateb i ddatganiad y Cangherllor, dyweodd Jo Stevens AS, yr Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Gymru, fod yr hyn yr oedd y llywodraeth wedi ei gynnig yn "fwy o'r un peth.
“Mae cyllideb Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf werth £1.5bn yn llai nag ydoedd pan osododd y Torïaid hi ym mis Tachwedd y llynedd, felly mae swm canlyniadol Barnett o £1.2bn a addawyd heddiw yn dal i adael Cymru yn llawer gwaeth."
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros etholaeth Dwyfor Meirionnydd, Saville-Roberts, wedi dweud bod angen cydnabod "niwed" Brexit ac ail-ymuno â'r Farchnad Sengl er mwyn sicrhau "hygrededd economaidd".
Mwy o drethi i rai
Fel rhan o'r newidiadau, bydd pobl sydd â mwy o arian yn gorfod talu mwy o drethi.
Ymysg prif gyhoeddiadau'r Canghellor roedd y newyddion fod:
- Pensiynau i gynyddu 10.1% o fis Ebrill er mwyn cadw i fyny gyda chwyddiant
- Y cyflog byw i gynyddu i £10.40 yr awr o fis Ebrill
- Cymorth gyda biliau ynni i barhau, ond fe fydd y cymorth yn llai hael - sydd yn golygu cynnydd mewn biliau ynni i deuluoedd
- Rhewi trothwy lwfansau personol sydd yn rhydd o dreth ar dreth incwm unigolion
- Rhagor o daliadau costau byw i'r rhai mwyaf anghenus
- Cerbydau trydan i gael eu trethu o fis Ebrill 2025
Mae Mr Hunt eisoes wedi dadwneud y rhan helaeth o doriadau trethi oedd wedi eu cynllunio gan Lywodraeth Liz Truss yn y gyllideb fechan.
Dywedodd Mr Hunt fod ei gynlluniau yn arbed £55 biliwn i'r llywodraeth, gan olygu y bydd cyfraddau llog a chwyddiant dipyn yn is.
Bydd y trothwy lle mae'n rhaid i bobl dalu 45% o'u cyflog mewn treth incwm yn cael ei leihau o £140,000 i £125,140.
Rhwng 1 Ionawr i 28 Fawrth 2023 bydd treth ar elw annisgwyl o 45% yn cael ei gyflwyno ar gyfer cynhyrchwyr trydan a fydd, yn ôl y llywodraeth, yn cynilo £14 biliwn o arian i'r economi.
Mae'r OBR, y corff sy'n sicrhau fod ffigyrau'r llywodraeth yn gwneud synnwyr yn ariannol, yn disgwyl y bydd y dirwasgiad yn llai o ganlyniad i'r polisïau diweddaraf.
Ni fydd y llywodraeth yn codi'r gwariant ar ddatblygiad rhyngwladol i 0.7% o Gynnyrch Mewnwladol tan y bydd y sefyllfa economaidd yn caniatáu, meddai'r Canghellor.
Ond mae'r llywodraeth wedi dweud y byddan nhw'n parhau gyda tharged i leihau allyriadau yn y wlad gan 68% mewn erbyn 2030.
Bydd yr oed ymddeol yn cael ei adolygu yn gynnar y flwyddyn nesaf, yn ôl y Canghellor.