Newyddion S4C

'Siomedig na fydd enw Parc Cenedlaethol Eryri yn uniaith Gymraeg'

17/11/2022
Eryri

Mae'n siomedig nad yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi penderfynu defnyddio ei enw yn uniaith Gymraeg yn unig o hyn allan, yn ôl un cynghorydd lleol o Wynedd. 

Cyhoeddodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ddydd Mercher eu bod wedi pleidleisio o blaid defnyddio'r geiriau Cymraeg 'Eryri' ac 'Yr Wyddfa' pan yn gohebu'n Saesneg.

Cafodd deiseb ei harwyddo gan dros 5,000 o enwau i "ffurfioli'r defnydd o'r enwau Cymraeg "Eryri" ac "Yr Wyddfa" yn gynharach eleni.

Y Cynghorydd John Pughe Roberts, sy'n aelod o'r Awdurdod, oedd yn gyfrifol am sefydlu'r ddeiseb, ac mae'n credu nad yw denyddio'r enwau Cymraeg ar Yr Wyddfa ac Eryri'n mynd yn ddigon pell.

Defnyddio enw uniaith Gymraeg 'Parc Cenedlaethol Eryri' yn unig ydy dymuniad y Cynghorydd Roberts.

"Rhannol siomedig ydw i, fysa'n waeth bo' ni wedi gwneud un cam a diwadd a fo achos mae o dal yn Saesnegaidd.

"Yr unig ffordd i'r Awdurdod dim ond ddefnyddio 'Parc Cenedlaethol Eryri' a dim ond defnyddio'r Wyddfa yn hytrach na 'Snowdon' a 'Snowdonia National Park' a 'ddaru nhw ddim pasio hynny heddiw."

"Dwi'n gweld bo' ni wedi colli cyfla da mewn ffordd efo Cymru yn mynd i Gwpan y Byd, ac hefyd i hysbysu am y Parc Cenedlaethol Eryri ac yn yr un ffordd ma' Cyngor Gwynedd wedi newid o erbyn rwan hefyd sydd yn fendigedig o beth, a ma' pawb arall i'w weld yn newid o ond ma'r Parc i'w weld yn dal eu traed yn ôl."

Wrth ystyried targed Llywodraeth Cymru o gyrraedd 1,000,000 o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae defnyddio'r Gymraeg mewn enwau llefydd yn hollbwysig er mwyn hybu'r iaith, yn ôl Mr Roberts. 

"Ma' unrhyw beth i hybu'r iaith yn gneud gwahaniaeth, 'dan ni isio ei neud o yn naturiol a ddim isio beggio i ddefnyddio fo. Mi ddyle'r iaith Gymraeg fod yn beth naturiol i'w ddefnyddio."

"Hira'n byd ma' rywun yn gymryd i drosi rhywbeth, mwya'n byd ma'r gost. Os 'dyn nhw'n neud o unwaith ac am byth, ma'r gost drosodd.

Er hyn, dywedodd y Cynghorydd nad yw'n teimlo fod y datblygiad wedi "cyflawni beth oedd ar y ddeiseb."

Bwriad y ddeiseb yn ôl Mr Roberts oedd y byddai'r parc yn cael ei gydnabod yn swyddogol yn uniaith Gymraeg fel 'Parc Cenedlaethol Eryri' a "pheidio defnyddio'r iaith Saesneg, a dydi hwnnw dal heb gael ei gyflawni."

Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Rhagwelir mai Yr Wyddfa ac Eryri fyddai’r ffurfiau arferol a chyffredin a thros amser, wrth i ymwybyddiaeth gynyddu, mai rheiny fyddai’r unig ffurfiau a arddelir gan yr Awdurdod. Byddai’r newid yn digwydd dros amser, fel mae cyhoeddiadau a dehongli’r Awdurdod yn cael eu diweddaru.

Nid oedd teitl llawn y Parc Cenedlaethol yn fater a godwyd gan yr Aelodau yn ei bwyllgor ddoe."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.