Cabinet Cyngor Gwynedd i ystyried codi'r premiwm treth cyngor ar ail gartrefi

Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn ystyried codi'r Treth Cyngor ar ail gartrefi o 100% i 150% o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Fe fydd aelodau'r Cabinet yn cyfarfod ddydd Mawrth nesaf i drafod os dylai'r premiwm ar dai gwag hirdymor barhau yn 100%, neu gael ei gynyddu gydag unrhyw arian ychwanegol sy'n dod i goffrau'r cyngor yn mynd tuag at yr argyfwng digartrefedd.
Cafwyd dros 7,300 o ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y premiwm ail gartrefi, sef y nifer uchaf y mae'r cyngor wedi ei dderbyn dros y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod y Cabinet dros gyllid, ei bod hi'n "bwysig cofio mai un cam yn y broses ydy’r adroddiad i’r Cabinet ac mai’r Cyngor Llawn fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch y Premiwm Treth Cyngor yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr."
Darllenwch fwy yma.