Arbenigwyr allanol i ymchwilio i honiadau o fewn Plaid Cymru
Mae Plaid Cymru wedi cyflogi arbenigwyr adnoddau dynol allanol i gynorthwyo i ymchwilio i honiadau o fewn y blaid.
Dywed y blaid nad oes modd iddyn nhw rannu gwybodaeth am "unrhyw achosion neu honiadau unigol".
Ond, maen nhw hefyd yn pwysleisio eu bod yn "cymryd yr holl faterion a phrosesau" o ddifrif.
Wrth drafod penodi'r arbenigwyr allanol, dywedodd Cadeirydd Plaid Cymru, Marc Jones mewn datganiad: “Rydym yn cynnig cymorth i bob aelod o staff, wrth i ni flaenoriaethu eu lles.
“Rydym yn cynnal arolwg o brofiadau staff a fydd yn llywio penderfyniadau yn y dyfodol.
“Yn gyson â pheidio â rhagfarnu canlyniad unrhyw ymchwiliad parhaus, byddwn mor agored ag y gallwn wrth i ni barhau i sicrhau bod ein holl brosesau mewnol yn cael eu dilyn yn ddiwyd bob amser."
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth aelod Plaid Cymru o'r Senedd, Rhys ab Owen, gael ei wahardd o grŵp Plaid Cymru yn dilyn honiadau ei fod wedi torri cod ymddygiad ASau.
Wrth gyhoeddi y gwaharddiad hwnnw, dywedodd llefarydd ar ran y blaid fod y weithred yn un "niwtral, heb ragfarn, tra'n aros am gasgliad ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau'r Senedd i achos honedig o dorri'r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd."
Llun: Plaid Cymru