Tywysog Cymru yn dweud bydd yn cefnogi Cymru a Lloegr yng Nghwpan y Byd
Mae Tywysog Cymru wedi dweud y bydd yn cefnogi Cymru a Lloegr yng Nghwpan y Byd.
Dywedodd y Tywysog William wrth WalesOnline yn ystod ei ymweliad â'r Senedd ddydd Mercher ei fod yn "cefnogi'r ddau" pan ofynnwyd iddo pwy fydd yn ei gefnogi yng Nghwpan y Byd yn Qatar.
Ychwanegodd ei fod yn cefnogi Lloegr mwy yn ystod gemau pêl-droed a Chymru pan mae'r crysau cochion yn chwarae rygbi, ond y bydd yn "cefnogi Cymru trwy'r holl broses" yn Qatar.
Daw hyn wedi iddo ymweld â thîm Lloegr cyn iddynt hedfan i Qatar, gan gyflwyno crysau iddynt gan ddweud "mae'r holl wlad tu ôl i chi, rydym ni tu ôl i chi."
A carefully worded, diplomatic reply from the Prince of Wales, an ardent @England fan, on supporting both Wales and England for @FIFAWorldCup 🏴🏴 pic.twitter.com/9WAf2uS0mD
— Roya Nikkhah (@RoyaNikkhah) November 16, 2022
Mae'r Tywysog yn llywydd ar Gymdeithas Bêl-droed Lloegr, ond fe wnaeth ei ymweliad â Pharc St George i weld carfan Lloegr cyn i'r chwaraewyr adael am Qatar hollti barn yma yng Nghymru.
Fe wnaeth Michael Sheen gwestiynu os oedd yr ymweliad yn un addas o ystyried ei fod yn Dywysog Cymru.
Bydd Cymru yn herio Lloegr yng ngrŵp B Cwpan y Byd ar 29 Tachwedd.
Llun: Eddie Keogh/FA