Newyddion S4C

NASA yn lansio roced ar gyfer taith o amgylch y lleuad

16/11/2022
S4C

Mae asiantaeth ofod NASA wedi lansio roced fydd yn teithio o amgylch y lleuad.

Fe wnaeth roced Artemis 1 adael Cape Canaveral yn nhalaith Florida, UDA ddydd Mercher, gan anfon capsiwl o amgylch y lleuad.

Pwrpas y daith yw gosod y sylfaen er mwyn anfon gofodwyr i'r lleuad am y tro cyntaf mewn 50 mlynedd. 

Hwn yw'r pedwerydd tro i NASA geisio lansio'r roced. Maent wedi gorfod gohirio'r daith dair gwaith yn y gorffennol o achos problemau technegol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.