Trump yn ymgeisio am arlywyddiaeth yr UDA eto
16/11/2022
Mae Donald Trump wedi cadarnhau ei fod yn ymgeisio am arlywyddiaeth yr UDA unwaith eto.
Mewn araith dros awr o hyd o'i stad ym Mar-a-Lago, Florida dywedodd ei fod eisiau gwneud yr UDA yn "wych ac yn odidog eto."
Mae Trump dal a chefnogaeth gref ymysg cefnogwyr y Gweriniaethwyr, er na wnaeth ei blaid cystal yn yr etholiadau canol tymor diweddar.
Er mwyn ymgeisio i fod yn Arlywydd, bydd rhaid iddo ennill enwebiad y Gweriniaethwyr, ac mae disgwyl i eraill i'w herio.
Un o'r rheiny yw'r gwleidydd Ron DeSantis, gafodd fuddugoliaeth ysgubol yn Florida.